Hwb economaidd i Bowys

18 Rhagfyr 2018
Mae gwariant cynyddol gan Gyngor Sir Powys wedi sicrhau hwb o £51m i'r economi leol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf - bron i £10m yn fwy na'r flwyddyn gynt.
Yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan y cyngor, cynyddodd cyfanswm y gwariant gan y cyngor o £153m yn 2016-17 i £188m yn 2017-18 - diolch yn bennaf i brosiectau mawr i adeiladu ysgolion, gyda'r gyfran a wariwyd gyda chwmnïau Powys yn cynyddu i £51m.
Yn gynharach eleni, lansiodd y cyngor fenter newydd sef 'Punt Powys' gyda'r nod o gynyddu'r gyfran y mae'r cyngor yn ei wario gyda chwmniau'r sir o 27c yn y bunt fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar Adfywio, y Cynghorydd Martin Weale: "Fel un o gyflogwyr mwyaf y sir ac yn fuddsoddwr sylweddol trwy ei brosiectau adeiladu, rydym yn gwybod bod gennym rol bwysig yn lles economaidd Powys.
"Dyna pam i ni lansio Punt Powys ym mis Mawrth fel rhan allweddol o Weledigaeth 2025 y cabinet i hybu swyddi a chwmniau lleol. Am bob canran rydym yn ei wario ym Mhowys, rydym yn gwybod y bydd £1.4m yn ychwanegol yn cael ei wario gyda chwmniau lleol.
"Cynyddodd ein gwariant cyffredinol yn 2017-18 oherwydd ein buddsoddiad sylweddol yn addysg a'r ysgolion newydd, felly mae'r gwerth i economi Powys eisoes yn cynyddu. Yr her nawr yw gwella'r ganran sy'n cael ei wario gyda chwmniau Powys ac mae'r arwyddion yn bositif iawn.
"Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol, rydym yn rhagweld cynnydd gwariant lleol o 27c ym mhob punt i 30c ym mhob punt, sef £4.2m yn ychwanegol i gwmnïau lleol heb unrhyw bwysau ychwanegol ar drethdalwyr.
"Fel pob awdurdod, mae'n rhaid i ni weithio o fewn rheolau caffael, ond nid cael y pris isaf sydd bob amser yn bwysig. Rhaid cael y gwerth gorau a gwneud y gorau gallwn ni i roi hwb i'r economi leol", ychwanegodd.