1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru

Prif weithredwr newydd yn dechrau ar ei gwaith ym mis Chwefror 2019

Image cynrychioli Prif weithredwr newydd yn dechrau ar ei gwaith ym mis Chwefror 2019

20 Rhagfyr 2018

Image of new Chief Executive, Dr Caroline TurnerBydd Prif weithredwr newydd Cyngor Sir Powys, Dr Caroline Turner yn dechrau ar ei gwaith ar 25 Chwefror 2019.

Penodwyd Dr Turner yn brif weithredwr fis diwethaf ac fe fydd yn olynu'r Prif Weithredwr Dros Dro, Dr Mohammed Mehmet. Mae wedi gweithio fel gwas sifil a swyddog llywodraeth leol ac yn hynod o brofiadol.

Dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro, Dr Mohammed Mehmet: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Caroline i Bowys ym mis Chwefror. Bydd hi'n cyrraedd y sir ar adeg hanfodol bwysig pan mae'r cyngor yn gweithio'n galed i bennu cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod."

Mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl a chanddi fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn llywodraeth leol ac yn y gwasanaeth sifil yng Nghymru. Ar hyn o bryd hi yw Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Ynys Môn.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu