Cyrsiau Pass Plus Cymru ar gael i yrwyr ifanc

8 Ionawr, 2019
Mae gyrwyr ifanc ym Mhowys yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer cwrs a fydd yn eu helpu i ennill profiad a sgiliau gwerthfawr i helpu i leihau eu risg ar y ffordd.
Cynllun diogelwch ar y ffyrdd yw Pass Plus Cymru, ac mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn ei redeg.
Mae'r cwrs, sy'n cynnwys sesiwn theori 2.5 awr, ac yna sesiwn ymarferol 9 awr gyda hyfforddwyr gyrru cymeradwy, wedi'i anelu at yrwyr ifanc 17-25 oed sydd â thrwydded yrru lân. Mae'r sesiwn ymarferol yn cynnwys gyrru ar y drafferth, gyrru yn y nos, a gyrru mewn dinasoedd.
Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnal am 6pm yn y mannau canlynol:
- Gorsaf Dân Llandrindod - Dydd Llun, Ionawr 28
- Gorsaf Dân Y Drenewydd - Dydd Mercher, Ionawr 30
- Gorsaf Dân Aberhonddu - Dydd Mawrth, Chwefror 26
Bydd y cwrs yn costio £20 i'r unigolion sy'n cymryd rhan, gan y bydd yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn talu'r £80 sy'n weddill, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Gall cymryd rhan yn Pass Plus Cymru eich helpu i ddod yn yrrwr mwy diogel, a gallai hyd yn oed leihau eich costau yswiriant o bosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel yn bwysig dros ben yn ein sir ni. Byddwn yn annog gyrwyr ifainc yn daer iawn i fanteisio ar y cynllun gwych yma.
"Mae'r cyrsiau hyn mor bwysig oherwydd maen nhw'n darparu gwell sgiliau gyrru a gallent arwain at arbed bywydau yn y pen draw."
I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle, ewch i www.dragondriver.com
Gallwch hefyd gysylltu â'r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd trwy anfon e-bost at road.safety@powys.gov.uk