Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar Ganllawiau Cynllunio Atodol pellach

18 Ionawr 2019
Mae Cyngor Sir Powys yn gofyn i drigolion y sir am eu barn ar ddwy set ychwanegol o ganllawiau a fydd yn cael eu defnyddio i gefnogi'r Cynllun Datblygu Lleol y mae'r sir wedi'i fabwysiadu.
Mabwysiadodd y cyngor sir Gynllun Datblygu Lleol newydd yn 2018 sy'n manylu ar bolisïau cynllunio y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan roi ymrwymiad y byddai'n llunio set o Ganllawiau Cynllunio Atodol (SPG) i'w ategu.
Bydd yr ymgynghori ar y canllawiau atodol, a ddechreuodd ddydd Llun (14 Ionawr) yn para chwech wythnos ac yn cwmpasu Tirwedd ac Ynni Adnewyddadwy.
Mae SPG yn cynorthwyo i ddeall, dehongli a chymhwyso rhai polisïau penodol ac i sicrhau bod y polisïau hynny'n cael eu deall yn well a'u cymhwyso'n effeithiol. Mae'n darparu cyngor defnyddiol i swyddogion cynllunio, datblygwyr a pherchnogion safleoedd fel ei gilydd.
Mae'r cyngor yn eu cynhyrchu i gyd-fynd â'r rhaglen y cytunwyd arni, a gyda'r Arolygydd Cynllunio annibynnol a gynhaliodd yr archwiliad cyhoeddus yn ystod 2017 i sicrhau bod y Cynllun Datblygu Lleol yn effeithiol wrth reoli datblygiad tir i hwyluso datblygu cynaliadwy.
Dechreuodd yr ymgynghori ddydd Llun 14 Ionawr a daeth i ben am 5.00pm ddydd Sul 24 Chwefror ac mae'r fersiynau drafft a rhagor o wybodaeth i'w chael ar dudalennau gwe Cynllun Datblygu Lleol y cyngor.
Mae'r dogfennau hefyd ar gael yn holl lyfrgelloedd y cyngor a'r pedair prif swyddfa yn Llandrindod, Y Trallwng ac Aberhonddu.