Gweithdy Diweddaru Theori Gyrru ar gael i yrwyr aeddfed

18 Ionawr 2019
Mae'r cyfle yn cael ei gynnig i yrwyr aeddfed yng ngogledd Powys i ddiweddaru eu gwybodaeth am yrru ar y ffyrdd, diolch i weithdy anffurfiol a drefnir gan y cyngor sir.
Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnal ei weithdy Diweddaru Theori Gyrru yn Y Trallwng ar ddydd Mawrth, 5 Chwefror am 1.30pm am ddwy awr.
Wedi anelu at yrwyr sy'n 65 mlwydd oed a hŷn yn y sir, bydd y gweithdy anffurfiol sy'n seiliedig ar ystafell ddosbarth ac yn ddwy awr o hyd, yn cynnig cyfle i'r sawl sy'n bresennol i ddiweddaru eu gwybodaeth ar Reolau'r Ffordd Fawr a gofynion trwyddedau gyrwyr. Fe fydd hefyd yn cynnwys pynciau megis gyrru yn ystod y nos, cyfreithiau meddyginiaeth ac alcohol a diogelwch personol y tu ôl i'r llyw.
Bydd y sawl sy'n bresennol hefyd yn derbyn manylion am asesiad gyrru awr o hyd os ydynt yn ei ddymuno.
Dywedodd y Cyng. Phyl Davies, Aelod o'r Cabinet dros faterion Priffyrdd: "Mae sicrhau fod ein ffyrdd yn ddiogel yn arbennig o bwysig i'n sir. Fe fyddwn yn annog gyrwyr aeddfed led led Powys i fanteisio ar y cynllun gwych hwn. Mae'r gweithdai am ddim hyn yn bwysig gan y byddant yn diweddaru sgiliau gyrru allweddol gan helpu i arbed bywydau yn y pendraw."
Am ragor o wybodaeth neu i gadw eich lle ar y cwrs hwn, anfonwch e-bost at road.safety@powys.gov.uk neu ffoniwch Bridget Farrington, Swyddog Ardal Diogelwch ar y Ffyrdd (Gogledd) ar 01686 611586.