1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: A-Y Ailgylchu - Ddim yn siŵr ym mha focs i roi eich gwastraff o'r tŷ?
Darllen mwy

Cipolwg ar Ysgol Carno

Image cynrychioli Cipolwg ar Ysgol Carno

23 Ionawr 2019

Images of hands in the air in a classroomMae rhieni a'r gymuned yn cael eu gwahodd i ddod i gael cipolwg ar ysgol gynradd newydd Carno rhyw fis cyn iddi agor.

Mae'r gwaith yn mynd ymlaen yn dda ar Ysgol Carno ar gost o £1.5 m, ac mae gwahoddiad i rieni alw heibio dydd Iau 31 Ionawr rhwng 4 - 6.30 lle bydd cyfle i gael golwg ar y gwaith hyd yma a gofyn cwestiynau am y prosiect.

Pan fydd yn barod, bydd y disgyblion yn cael eu haddysgu mewn ysgol newydd sbon yr 21ain ganrif gyda darpariaeth benodol y blynyddoedd cynnar ger y neuadd gymuned, heb orfod dibynnu ar ystafelloedd symudol.

Mae nawdd i'r prosiect wedi'i rannu 50:50 rhwng Cyngor Sir Powys a rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru, gyda chyfraniad o £500,000 gan Gymdeithas Hamdden Carno, trwy rodd Ymddiriedolaeth Fferm Wynt Tirgwynt.  Mae'r ysgol yn rhan o ffederasiwn o dair ysgol gynradd Gymraeg sef Carno, Glantwymyn a Llanbrynmair.

Mae'r ffederasiwn o ysgolion wedi bod mewn bodolaeth ers 2014 gydag un corff llywodraethu, un tîm arwain a Phennaeth newydd, gyda 157 o ddisgyblion ar draws y tri safle.

Dechreuodd y gwaith ar yr ysgol newydd haf diwethaf gyda chwmni Paveaways o Groesoswallt wedi derbyn y contract i wneud y gwaith.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu