Gyfarwyddwr Corfforaethol (Trawsnewid) newydd

23 Ionawr 2019
Dydd Mawrth (22 Ionawr), penodwyd Vanessa Young, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cydffederasiwn GIG Cymru yn Gyfarwyddwr Corfforaethol (Trawsnewid) newydd Cyngor Sir Powys.
"Rwy wrth fy modd i fod yn ymuno â'r cyngor ar adeg mor gyffrous ac yn edrych ymlaen at fawr at gydweithio ag aelodau, swyddogion, dinasyddion a phartneriaid i gynllunio a chyflwyno ffyrdd newydd a gwell o weithio er budd y sir gyfan. Mae llawer i'w wneud a dwi methu aros i ddechrau arni," dywedodd.
Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rwy'n edrych ymlaen at groesawu Vanessa i Bowys ar gyfnod tyngedfennol yn hanes y cyngor. Bydd gwaith trawsnewid yn rhan enfawr wrth lywio dyfodol y sir a daw Vanessa ag egni a gallu i wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol."
Yn ei gwaith gyda Chydffederasiwn GIG Cymru, mae Vanessa wedi cefnogi a chynrychioli arweinwyr holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru gan helpu i arwain systemau a sicrhau fod llais arweinwyr y GIG wrth wraidd polisïau cyhoeddus yng Nghymru.
Cyn hynny, treuliodd dros bedair blynedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Cyfarwyddwr Corfforaethol - Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn gweithio ar strategaethau corfforaethol ac ariannol gan helpu i lywio gwaith trawsnewid sylweddol a gwella effeithlonrwydd.
Dechreuodd Vanessa ei gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil ac mae wedi gweithio yn Whitehall a Llywodraeth Cymru. Symudodd i lywodraeth leol yn 2008 ac roedd yn Gyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rhwng 2008 - 2012.
Mae ganddi radd mewn Polisi Cymdeithasol a Gweinyddu, MBA ac mae'n Gyfrifydd CIPFA cymwys. Mae'n briod â phedwar o blant hŷn.