Sut i lwytho e-gylchgronau ac e-gomics RBdigital ar PC/Mac
Dyma gyfle i gael blas ar ddarllen dros 280 o gylchgronau poblogaidd a benthyg faint a fynnoch heb ddyddiad dychwelyd. Mae croeso i chi gadw faint bynnag a fynnoch am gyhyd ag y mynnoch. Os ydych yn defnyddio ein gwasanaeth cylchgronau ar Gyfrifiadur Personol/Mac gallwch ddarllen cylchgronau ar-lein yn syth.
Hefyd gallwch ddarllen cylchgronau all-lein ar declyn Apple neu Android trwy osod ap digidol RBdigital. Gwelwch yr arweinlyfrau ar wahân am fwy o wybodaeth am hyn. Mae'n ddrwg gennym ond nid oes modd i chi ddarllen e-Gylchgronau all-lein ar Gyfrifiadur Personol/Mac. |
Dilynwch y camau hyn i ddarllen cylchgronau Zinio ar eich Cyfrifiadur neu'ch Mac.
Cam 1 Ewch ati i greu enw defnyddiwr a chyfrinair (bydd angen y rhif ar gefn eich cerdyn llyfrgell arnoch).
Ewch i dudalen Zinio y Llyfrgell https://wales.rbdigitalglobal.com/. Byddwch yn gweld dolenni ar gyfer y gwasanaethau e-Gylchgronau ac e-Comics. Cewch ddefnyddio'r un enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer y ddau. Gwelwch ein tudalen i weld sut i lawrlwytho'r ap ComicsPlus).
Cliciwch ar 'Creu Cyfrif Newydd' ar frig y tudalen ar y dde
Rhowch rif eich cerdyn llyfrgell i mewn a chliciwch ar 'Nesaf'
Yn y ffenestr nesaf teipiwch eich enw a'ch cyfeiriad e-bost. Wedyn bydd eisiau i chi greu cyfrinair.
Dewiswch 'Powys' fel eich Llyfrgell/Lle rydych yn byw pan mae'n gofyn.
Rydych chi bellach wedi mewngofnodi. Cliciwch ar ddolen RBdigital Magazines ac yna cliciwch ar 'Browse Magazines'
Cam 2 Dewiswch eich cylchgrawn cyntaf
Chwiliwch am deitl neu porwch fesul genre. Pan ddewch chi o hyd i gylchgrawn hoffech chi ei ddarllen, cliciwch ar glawr y cylchgrawn i agor y tudalen 'Magazine Detail'.
Dewiswch y botwm 'Checkout'. Hefyd gallwch ddewis derbyn neges pan fydd rhifyn nesaf y cylchgrawn ar gael.
Cliciwch ar 'Start Reading'. (Rhaid i chi fod ar-lein i ddarllen cylchgronau ar Gyfrifiadur Personol/Mac. Rydych dim ond yn gallu lawrlwytho cylchgronau i declyn symudol.)
Cam 3 - Darllen y cylchgrawn ar-lein
Ar ôl i chi glicio ar 'Start Reading' bydd y cylchgrawn yn agor mewn tab neu ffenestr newydd.
I droi'r tudalen, cliciwch ar ochr dde (neu chwith) y tudalen 'darllen y cylchgrawn'.
I weld holl dudalennau'r cylchgrawn, cliciwch ar y grid ar ochr chwith ffenestr y Darllenydd (yr eicon sgwâr gyda naw sgwâr).
I weld y cylchgrawn mewn dull tudalen cyfan, cliciwch ar eicon y sgrin gyfan ar ochr chwith ffenestr y Darllenydd (y ffenestr ddarllen - eicon sgwâr gyda phedair saeth.) Gwasgwch y fysell 'Escape' ar eich bysellfwrdd i fynd allan o ddull y sgrin gyfan.
Problemau gyda Safari?
Mae angen llwytho a galluogi Adobe Flash ar borwyr Safari. Os nad yw'ch cyfrifiadur yn dangos y cylchgrawn yn eich porwr ewch i https://get2.adobe.com/flashplayer i'w osod.
Mae Chrome a Firefox yn borwyr ychwanegol ar Mac sy'n gweithio gyda'r Darllenydd e-Gylchgronau.
Cam 4 -Y tro nesaf rydych yn mewngofnodi...
Byddwch yn gweld yr holl gopïau wnaethoch chi eu benthyg mewn rhestr o dan 'My Collection' (brig y tudalen ar y dde). Cliciwch ar y Bin Sbwriel ar waelod clawr pob cylchgrawn i ddileu'r rhifyn oddi ar y rhestr.
Angen help?
Gallwch glicio ar 'Help' ar waelod y tudalen e-Gylchgronau i gyflwyno cais am gymorth ar-lein i RBdigital.
Fel arall mae croeso i chi anfon e-bost at Wasanaeth Llyfrgelloedd Powys (library@powys.gov.uk) a byddwn yn falch o helpu.