Sut i lwytho e-gylchgronau ac e-gomics RBdigital ar ffôn clyfar neu lechen - Apple, Android a Kindle Fire
Cewch fwynhau darllen dros 280 o gylchgronau poblogaidd a benthyg faint a fynnoch heb ddyddiad dychwelyd. Mae croeso i chi gadw faint bynnag a fynnoch am gyhyd ag y mynnoch.
Dilynwch y camau hyn i gael Cylchgronau a Comics RBdigital ar eich teclyn Apple, Android neu Fire.
Gwelwch y canllawiau ar wahân ar sut i drin e-gylchgronau Rbdigidol ar PC/Mac. |
Cam 1 - Ewch ati i lawrlwytho a gosod ap rbdigital (neu dilynwch y ddolen ar waelod tudalen gwe rbDigital eMagazine)
Cam 2 - Crëwch enw defnyddiwr a chyfrinair (bydd angen y rhif ar gefn eich cerdyn llyfrgell arnoch).
Agorwch yr ap, wedyn tapiwch 'Ddim yn aelod? Cofrestrwch nawr'.
Tapiwch 'Dewis Gwlad' ac yna dewiswch Y Deyrnas Unedig
Tapiwch i ddewis Llyfrgell, wedyn teipiwch POW a dewiswch 'Powys'
Tapiwch 'Creu Cyfrif' ac yn a llenwch y ffurflen fer i gofrestru.
Cam 3 - Dewiswch y cylchgrawn neu'r comic yr hoffech ei ddarllen
Tapiwch eicon y Ddewislen (paperstack), a dewiswch Gylchgronau neu Gomics i bori'r rhestr lawn; neu tapiwch yr eicon Chwilio, wedyn Cylchgronau neu Gomics, i chwilio am deitl neu bori fesul genre.
Pan ddewch chi o hyd i'r teitl sydd ei eisiau arnoch, tapiwch 'Man Talu' (Checkout), yna Darllen a bydd y cylchgrawn yn lawrlwytho i'ch teclyn (d.s. fel arfer ni fydd y teitl ond yn lawrlwytho dros DdiWifr - gallwch chi newid hwn yn 'Gosodiadau')
Defnyddio'r Ap
Pan fydd eich cylchgrawn yn agor, sweipiwch i'r chwith neu i'r dde i droi'r tudalennau. Bydd rhai cylchgronau'n dangos dolen [Text]. Mae hyn yn ailddiwygio'r tudalen mewn testun sy'n rholio lawr y sgrin yn hawdd. Hefyd gallwch wneud y ffont yn fwy neu newid i lythrennau gwyn ar gefndir du.
I fynd i ddewislen Gosodiadau, i newid eich manylion mewngofnodi, neu i weld yr hyn rydych wedi'i archebu, gwasgwch yr eicon 'paper stack' ar frig y tudalen ar yr ochr chwith.
Oes angen help arnoch?
Gwasgwch yr eicon 'paper stack' yn yr ap ar ochr chwith y tudalen ar y brig. Wedyn gwasgwch 'Help' ac yna 'Magazine' i bori rhestr o bynciau.
Mae croeso i chi anfon e-bost at Wasanaeth Llyfrgelloedd Powys (library@powys.gov.uk) a byddwn yn falch o helpu.