Canllawiau lawrlwytho Lyfrau Llafar Borrowbox i gyfrifiadur a chwaraewr MP3
Os ydych chi'n aelod o Lyfrgelloedd Powys gallwch chi fenthyca e-Lyfrau ac e-Lyfrau Llafar am ddim gan Borrowbox.Y ffordd fwyaf hwylus o lawrlwytho Llyfrau Llafar yw trwy ap Borrowbox ar gyfer ffonau clyfar a llechi.
Os ydych yn defnyddio Borrowbox ar declyn symudol (ffôn clyfar neu lechen) mae canllawiau ar wahân ar gyfer gosod a defnyddio ap Borrowbox.
I gael gwybodaeth ar lawrlwytho e-lyfrau Borrowbox i gyfrifiadur personol, gwelwch y canllaw ar wahân.
Os yw'n well gennych wrando ar Lyfrau Llafar ar gyfrifiadur neu eu trosglwyddo i chwaraewr MP3, dilynwch y camau isod.
Cam 1 - Ewch i'r wefan a mewngofnodwch
Ewch i library.bolindadigital.com/powys a chliciwch ar Fewngofnodi (os nad ydych yn mewngofnodi nawr bydd y system yn gofyn i chi wneud pan ddewiswch chi lyfr).
Mewngofnodwch gyda'r rhif ar gefn eich cerdyn llyfrgell a'ch Rhif Adnabod Personol (PIN) gan y llyfrgell.
Eich Rhif Adnabod Personol yw'r rhif rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i brif gatalog y llyfrgell. Gan ddibynnu ar ba bryd ymunoch chi â'r llyfrgell, eich Rhif Adnabod Personol yw pedwar rhif olaf y rhif ffôn sydd gennym ar ein cofnodion ar eich cyfer, neu fel arall 'changeme' fydd y cyfrinair.
Os cewch chi broblemau gyda'ch Rhif Adnabod Personol cysylltwch â'ch llyfrgell leol neu anfonwch e-bost i library@powys.gov.uk a byddwn yn falch o'ch helpu.
Cam 2 - Dewiswch Lyfr Llafar a'i lawrlwytho
Chwiliwch am lyfr neu defnyddiwch y tabiau i bori trwy e-Lyfrau neu e-Lyfrau Llafar, ac yna'r dosbarth oedran. Fel arfer mae'r wefan yn dangos y tab 'Featured', sy'n rhestr fach iawn - cliciwch ar 'All Releases' neu 'Browse by Genre' i weld mwy.
Pan ddewch chi o hyd i Lyfr Llafar sy'n mynd â'ch bryd, cliciwch ar glawr y llyfr ac yna 'Confirm eAudiobook Loan'. Rydych chi bellach wedi benthyg y llyfr/eitem.
Bydd hwn yn mynd â chi i'r tudalen 'Benthyciad Llwyddiannus'. Dewiswch 'Parhau i Bori' neu ewch ati i lawrlwytho' eich benthyciad.
Nawr byddwch yn gallu gweld y teitl hwn o dan 'Benthyciadau Ar Waith/Llyfrau Cadw' ar ochr dde eich tudalen 'Fy Nghyfrif'.
Dewiswch lawrlwytho e-Lyfr Llafar ar y tudalen Lawrlwytho un ai trwy lawrlwytho'r cyfan unwaith neu fesul rhan.
Os gwelwch chi neges sy'n fflachio gyda dewisiadau i Agor, Rhedeg neu Gadw'ch benthyciad pan r'ych chi'n lawrlwytho, cofiwch ddewis 'Cadw' (Save) neu fel arall ni fydd yr e-Lyfr Llafar yn cael ei gadw i'ch cyfrifiadur yn iawn.
Dod o hyd i'r Llyfr Llafar - efallai y byddan nhw'n agor yn awtomatig neu efallai bydd rhaid i chi ei ganfod yn eich ffeil Lawrlwytho. Mae'r rhan fwyaf o lyfrau'n lawrlwytho fel ffeil Zip - cliciwch ddwywaith i'w hagor.
Cam 3 - Gwrando ar lyfr ar eich cyfrifiadur neu drosglwyddo i chwaraewr MP3
Gallwch chi wrando ar Lyfr Llafar ar eich cyfrifiadur neu'i drosglwyddo i chwaraewr MP3 gan ddefnyddio'ch meddalwedd arferol, e.e. Windows Media Player, iTunes, neu'r feddalwedd a ddaeth gyda'ch chwaraewr MP3.
Gallwch chi wrando ar Lyfr Llafar ar eich cyfrifiadur neu'i drosglwyddo i chwaraewr MP3 gan ddefnyddio'ch meddalwedd arferol, e.e. Windows Media Player, iTunes, neu'r feddalwedd a ddaeth gyda'ch chwaraewr MP3.
Mae mwy o gymorth ar gael ar wefan Bolinda neu mae croeso i chi e-bostio library@powys.gov.uk
Rheoliadau Benthyca
- Caiff oedolion a phlant fenthyg hyd at 10 o Lyfrau Llafar a 10 o e-Lyfrau Llafar gan Borrowbox.
- Mae benthyciadau'n para am bythefnos ond cewch chi 'ddychwelyd' eich benthyciadau unrhyw dro. Hefyd gallwch chi adnewyddu eitemau os oes angen mwy o amser arnoch.
- Ar ddiwedd y cyfnod benthyca byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch atgoffa i ddileu unrhyw gopïau r'ych chi wedi eu cadw i gyfrifiadur personol/Mac, chwaraewr MP3 neu leoliad arall. Mae hawlfraint arferol yn berthnasol ac oherwydd eich bod yn lawrlwytho llyfrau trwy drwydded fenthyca rhaid i chi eu dileu ar ddiwedd y cyfnod benthyca.
e-Lyfrau gan Borrowbox
Mae gan Borrowbox e-Lyfrau a Llyfrau Llafar. Y ffordd fwyaf hwylus o fenthyca e-Lyfrau ac e-Lyfrau Llafar yw trwy'r ap Borrowbox ar gyfer ffonau clyfar a llechi.
Pe ddymunech lawrlwytho e-lyfrau i gyfrifiadur a'u trosglwyddo i e-Ddarllenydd, gwelwch ein cyfarwyddiadau e-Lyfrau ar wahân.
Angen cymorth?
Mae atebion i Gwestiynau Cyffredin ar wefan Borrow Box. Ewch i library.bolindadigital.com/powys a chliciwch ar 'Help' wrth frig y tudalen.
Mae croeso i chi anfon e-bost at Wasanaeth Llyfrgelloedd Powys library@powys.gov.uk a byddwn yn falch o'ch helpu.