Canllawiau ar lwytho e-Lyfrau Borrowbox ar gyfrifiadur ac eDdarllenydd
Os ydych chi'n aelod o Lyfrgelloedd Powys, gallwch fenthyg e-Lyfrau ac e-Lyfrau Llafar am ddim, trwy Borrowbox. Mae'r canllawiau hyn yn eich arwain chi trwy'r camau angenrheidiol i lwytho e-Lyfrau ar gyfrifiadur a'u trosglwyddo i eDdarllenydd. Rydym yn trafod e-Lyfrau Llafar mewn canllawiau gwahanol.
Yn anffodus, nid ydych chi'n gallu defnyddio eDdarllenwyr Kindlear gyfer e-Lyfrau sydd wedi'u benthyg o'r llyfrgell, gan mai dim ond e-Lyfrau o Amazon y gellir eu defnyddio ar Kindle. (Fodd bynnag, gallwch lwytho e-Lyfrau Borrowboxar Kindle/Amazon Firetrwy lwytho Ap Borrowbox - darllenwch y canllawiau priodol). |
Os ydych chi'n defnyddio Borrowbox ar ddyfais symudol (ffôn clyfar neu lechen) mae 'na ganllawiau gwahanol ar osod a defnyddio Ap Borrowbox.
Mae 3 cham i lwytho e-Lyfrau ar eich eDdarllenydd:
|
Cam A - Gosod Adobe Digital Editions (ADE) ar eich cyfrifiadur a chreu ID Adobe(Os oes gennych feddalwedd Adobe Digital Editions ar eich cyfrifiadur, ac ID Adobe, gallwch hepgor y rhan hon). Adobe Digital Editions yw'r meddalwedd sy'n eich galluogi chi i lwytho'r e-Lyfrau i'ch cyfrifiadur a'u trosglwyddo i eDdarllenwyr. Mae ID Adobe yn gyfrif sydd am ddim i ddefnyddwyr lle gallwch ddefnyddio eLyfrau â diogelwch digidol (DRM) Y newyddion da yw mai dim ond unwaith fydd rhaid gwneud hyn. Os ydych chi wedi gwneud hyn ar gyfer unrhyw wasanaeth arall, dylai popeth fod yn ei le. Cam 1 - Llwytho a gosod 'Adobe Digital Editions' Ewch i dudalen llwytho Adobe Digital Editions: www.adobe.com/uk/solutions/ebook/digital-editions/download.html Dewiswch y feddalwedd ar gyfer naill ai Windows neu Macintosh. Bydd y camau nesaf yn dibynnu ar eich system weithredu, ond os na fydd y meddalwedd yn llwytho'n awtomatig, bydd angen i chi ddod o hyd i'r ffeil gosodwr yn eich ffolder lawrlwythiadau a'i redeg. Cam 2 - Awdurdodi eich cyfrifiadur gydag ID Adobe Ar ôl gosod y meddalwedd, bydd Digital Editions yn agor ac yn gofyn i chi Awdurdodi eich cyfrifiadur (os na, cliciwch ar Help>Authorize Computer.) Yn y sgrîn ganlynol, dewiswch Adobe ID o'r gwymplen. Os oes gennych ID Adobe yn barod, (er enghraifft, os ydych chi eisoes yn ei ddefnyddio ar beiriant neu ddyfais arall) rhowch e nawr. Os nad oes gennych ID Adobe, cliciwch ar ddolen Create an Adobe ID Byddai'n werth gwneud nodyn o'ch ID a'r cyfrinair - gallwch lwytho'r un e-Lyfr ar wahanol ddyfeisiau e.e. bwrdd gwaith, eDdarllenydd, llechen a ffôn clyfar. Ewch nôl i feddalwedd Adobe Digital Editions a defnyddio eich ID Adobe i awdurdodi eich cyfrifiadur. Gallwch nawr ddechrau llwytho e-Lyfrau.
|
Cam B - Llwytho e-Lyfrau o wefan BorrowBox i Adobe Digital EditionsBorrowBox has both eBooks and eAudiobooks. Audiobooks are covered in a separate guide. Cam 1 - Ewch i'r wefan a logio mewn Ewch i library.bolindadigital.com/powys a chlicio ar 'Sign In' Logiwch i mewn gyda'r rhif sydd ar gefn eich cerdyn llyfrgell a'r PIN. (Os na wnewch chi logio mewn nawr, bydd rhaid i chi wneud hynny wrth ddewis llyfr). Os cewch unrhyw broblemau gyda'r PIN, cysylltwch â'r llyfrgell leol neu anfonwch e-bost at library@powys.gov.uk a byddwn yn barod i helpu. Cam 2 - Dewis llyfr a'i lwytho Gallwch ddefnyddio'r tabiau i bori trwy e-Lyfrau neu e-Lyfrau Llafar, ac yna clicio ar y grŵp oedran (oedolion, oedolion ifanc, plant). Cofiwch, mae'r wefan yn mynd yn syth i'r tab 'Dan Sylw' sy'n rhestr fer iawn - gallwch glicio yn lle hynny ar 'All Releases' neu 'Browse by Genre' i weld mwy. Pan fyddwch wedi dewis llyfr, cliciwch ar glawr y llyfr ac yna 'Confirm EBook Loan' Mae'r llyfr yn barod i'w lwytho. Cliciwch ar 'Download for eReader (Adobe ePub).
Yna, bydd Adobe Digital Editions yn mewnforio'r ffeil e-Lyfr, a gallwch ei ddarllen ar y cyfrifiadur os mynnwch chi. Fel arall, ewch nôl i'r brif ffenestr ADE. |
Cam C - Trosglwyddo'r e-Lyfr ar eDdarllenyddCysylltwch eich eDdarllenydd i'r cyfrifiadur. Dylai ymddangos yn Adobe Digital Editions dan y rhestr 'Bookshelves' on the ochr chwith. |
Rheoliadau Benthyca
|
Angen help?Mae 'na dudalennau help cynhwysfawr ar wefan Borrowbox library.bolindadigital.com/powys - cliciwch ar 'Help' ar dop y dudalen: |