Arolwg ar Ganolfannau Arbenigol Anghenion Dysgu Ychwanegol

28 Ionawr 2019
Mae'r cyngor yn gofyn barn teuluoedd Powys ar ganolfannau arbenigol Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n darparu cymorth yn y sir.
Mae'r arolwg yn gofyn barn pobl ifanc, rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid ar y cymorth sy'n cael ei gynnig i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng nghanolfannau arbenigol y sir.
Mae'r canolfannau hyn yn adnodd ychwanegol sy'n cynnig cymorth arbenigol a phenodol i ddisgyblion er mwyn ceisio cau a lleihau unrhyw fylchau yn eu haddysg. Mae'r canolfannau hyn yn gweithredu ar draws bob cam addysg o gyn oed ysgol i ysgol uwchradd, ac yn ddarpariaeth ychwanegol, nid yn lle addysg prif ffrwd.
Bydd cyfle i lenwi'r arolwg tan 17 Chwefror, a byddwn yn gofyn eich barn ar beth sy'n gweithio'n dda yn y canolfannau arbenigol, beth sydd ddim cystal a sut allwn wella.
Am ragor o wybodaeth ewch i : https://cy.powys.gov.uk/article/6779/Arolwg-am-Anghenion-Dysgu-Ychwanegol-a-Chanolfannau-Arbenigol-Ysgolion.