Dechrau gwaith ar gynllun teithio llesol yn Llanandras

29 Ionawr 2019
Mae'r cyngor sir wedi cadarnhau bod gwaith i ehangu cyfleusterau teithio mewn tref yng nghanol Powys wedi dechrau.
Dechreuodd Cyngor Sir Powys ar ail gyfnod y gwaith i gwblhau prosiect Llwybr Diogel i Gymunedau Llanandras ddydd Llun 28 Ionawr, diolch i grant o £400,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Nod y prosiect yw gwella cyfleusterau teithio llesol yn y dref fel bod rhagor o drigolion yn cael eu hannog i deithio ar siwrneiau byrrach trwy gerdded neu seiclo, yn hytrach na mewn cerbyd.
Yn sgil y gwaith diweddaraf, bydd llwybrau newydd yn cael eu creu, rhai sy'n bodoli eisoes yn cael eu lledu, a mesurau lliniaru traffig yn cael eu cyflwyno, yn ogystal â pharth 20mpg ar hyd Heol Greenfield a Ffordd Henffordd.
Bydd y Gronfa Teithio Llesol yn cyllido'r gwaith. Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu lefelau teithio llesol ar draws Cymru yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw'r gronfa.
Rhoddodd y gymuned gefnogaeth gref i'r prosiect yn sgil cyfnod cyntaf y prosiect, a agorwyd yn swyddogol y llynedd, ac mae rhagor o drigolion wedi penderfynu cerdded neu seiclo ar y llwybr newydd bellach.
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd: "Rwyf wrth fy modd fod gwaith ar ail gyfnod y prosiect ar fin dechrau i ehangu'r cyfleusterau teithio lleol poblogaidd sydd eisoes ar gael yn Llanandras.
"Ry'n ni am i'n trigolion fod yn fwy rhagweithiol ond ni fydd yn bosibl i hyn ddigwydd oni bai fod y seilwaith yno'n barod iddynt fynd i gerdded neu i seiclo.
"Pan fydd y gwaith yma wedi'i gwblhau, bydd gan Lanandras y cyfleusterau teithio llesol gorau yn y sir.
"Hoffwn ddiolch i gymuned Llanandras, sydd wedi helpu i lunio'r cynlluniau ar gyfer y cyfnod diweddaraf, a hefyd Llywodraeth Cymru sydd wedi cefnogi'r cynigion hyn ac wedi darparu'r cyllid grant."