Dirwyo dyn am werthu technoleg teledu yn dwyllodrus

1 Chwefror 2019
Mae gwerthu technoleg teledu wedi'i hacio ar y cyfryngau cymdeithasol wedi costio dros £5,000 i ddyn o ganol Powys wedi i'r cyngor sir ei erlyn.
Ymddangosodd Mr Ryan Jackson, o Gaufron, Rhaeadr, o flaen Llys Ynadon Llandrindod ddydd Mercher 30 Ionawr mewn achos erlyniad a ddygwyd gan Wasanaeth Safonau Masnach y cyngor.
Plediodd Jackson yn euog i bedwar cyhuddiad dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, tri chyhuddiad o ddarparu neu werthu dyfeisiadau a addaswyd i drechu mesurau technolegol ac un cyhuddiad o dor-hawlfraint gyda'r bwriad o elwa'n ariannol.
Cafodd Jackson ddirwy o £1,340 am y pedwar cyhuddiad a gorchmynnwyd ef i dalu £4,070 mewn costau a thâl ychwanegol o £34 .
Clywodd ynadon fod swyddogion safonau masnach wedi darganfod tudalen Facebook fis Mawrth 2018 o'r enw 'TV Subscriptions 4 All' a oedd yn cynnig sianeli â chynnwys poblogaidd, er enghraifft Sky TV, am dâl misol neu flynyddol bychan.
Cysylltodd swyddogion safonau masnach â changen ymmchwilio Sky Tv i gael cymorth ganddynt gyda'r ymchwiliad. Gwnaethant bryniannau prawf o rai o'r cynhyrchion yr oedd Jackson yn eu gwerthu.
Cafodd y cynnyrch ei brofi, a darganfuwyd ei fod yn caniatáu i bobl wylio cynnwys Sky yn fyw heb gerdyn gwylio awdurdodedig Sky na thanysgrifio i'r cwmni.
Clywodd yr ynadon fod Jackson wedi gwneud elw o rhwng £840 a £2,500 rhwng Ionawr 2016 ac Awst 2018, a bod yr hyn a wnaeth wedi amddifadu SkyTV o dros £48,000.
Dywedodd y Cyng James Evans, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Safonau Masnach: "Bydd ein Gwasanaeth Safonau Masnach yn aml yn ymchwilio'r cyfryngau cymdeithasol i geisio dod o hyd i bobl sy'n defnyddio'r safleoedd hyn ar gyfer amrywiol weithgareddau anghyfreithlon. Roedd un yn cynnwys gwerthu blwch teledu Protocol Rhyngrwyd (IPTV) a'r cyfryngau cysylltiedig.
Yn y DU, dim ond Sky, BT a Virgin Media sydd â'r hawl i ddarlledu sianeli poblogaidd SKY. Roedd cwsmeriaid y diffynnydd yn twyllo'r cwmnïau hyn trwy dalu dim ond cyfran fechan o'r gwir gost.
"Dylai'r achos yma fod yn rhybudd i'r rheiny sy'n cymryd rhan yn y gweithgaredd anghyfreithlon yma y byddwn yn ymchwilio i'r mater ac yn cymryd camau gweithredu priodol."
Dywedodd Clive Jones, Arweinydd Proffesiynol Safonau Masnach y Cyngor: "Mae angen gweithredu pendant ar gyfer unrhyw faterion fel hyn sy'n ymwneud â gweithredoedd anghyfreithlon. Mae hi'n bwysig hyrwyddo masnachu teg o fewn ein cymuned, a thynnu'r fantais yn ôl o'r rheiny sy'n cymryd rhan mewn troseddau o'r fath."