Cyfle i ymuno â'n Pwyllgor Safonau

4 Chwefror 2019
Rydym yn chwilio am rywun i helpu Cyngor Sir Powys gynnal safonau aelodau'r cyngor a'r cynghorau tref a chymuned lleol.
Mae gan y cyngor sir Bwyllgor Safonau gyda naw aelod - pedwar cynghorydd sir a phump aelod annibynnol neu 'lleyg' - ac rydym yn chwilio am aelod annibynnol i ymuno â'r pwyllgor.
Mae gan y pwyllgor bwerau i gynnal gwrandawiadau i achosion o gamymddwyn ac i osod cosbau. Hefyd mae ganddo is-bwyllgor sy'n cynnwys yr aelodau annibynnol, sy'n delio â safonau cynghorau tref a chymuned y sir.
Y Cadeirydd presennol yw Helen Rhydderch-Roberts ac mae ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben. Dywedodd: "Mae'r Pwyllgor Safonau'n rhan bwysig o'r broses democratiaeth leol. Mae'n cynnwys Cynghorwyr etholedig ac aelodau lleyg sy'n helpu'r Cynghorwyr i wneud eu gwaith gan sicrhau eu bod yn cadw at y Cod Ymddygiad. Ym Mhowys, mae'r Pwyllgor hwn bob amser wedi bod yn weithgar iawn, gan gynnig arweiniad a chyngor i Gynghorwyr."
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn tâl dyddiol o £99 am hanner diwrnod neu £198 am ddiwrnod llawn, a chostau teithio.
Nid oes angen cymwysterau addysgol neu broffesiynol ffurfiol, ond dylai ymgeiswyr fod â diddordeb mewn cynnal a hyrwyddo safonau uchel, deall materion sydd o bwys yn lleol, â synnwyr cyffredin a sgiliau cyfathrebu da.
Fel arfer, mae'r pwyllgor yn cwrdd tua thair neu bedair gwaith y flwyddyn ond gall fod yn amlach os bydd angen.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl ddod o hyd i ragor o fanylion yma neu cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor Safonau ar 01597 826202 neu ar e-bost at carol.johnson@powys.gov.uk
Y dyddiad cau yw 1 Mawrth 2019.