1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru

Aberhonddu'n croesawu gorymdaith Y Gwarchodlu Cymreig ar ddydd Gŵyl Dewi

Image cynrychioli Aberhonddu'n croesawu gorymdaith Y Gwarchodlu Cymreig ar ddydd Gŵyl Dewi

6 Chwefror 2019

Image of the Welsh Guards Bydd Uwch Gatrawd Milwyr Traed Cymru'n ymweld â Phowys fis nesaf ar gyfer eu gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi flynyddol.

Bydd Y Gwarchodlu Cymreig yn Aberhonddu ddydd Gwener, 1 Mawrth fel rhan o'u gorymdaith flynyddol.

Bydd band y Gatrawd yn arwain gwasanaeth preifat yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu am 11:30am.  Wedyn byddant yn arwain yr orymdaith o'r eglwys gadeiriol am 12:30pm i ganol y dref ac yn aros y tu allan i Westy'r Wellington.

Yno bydd y dirprwy lefftenant Nicola Watson, Uchel-Siryf Powys Mr David Price ac urddasogion eraill yn ymuno â'r Cynghorydd David Meredith, Cadeirydd y Cyngor a'r Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys. Ar ôl ymgynnull byddant yn cyflwyno cennin i'r gatrawd.

Wedi hynny bydd yr orymdaith yn martsio i Theatr Brycheiniog ac yn ymwasgaru cyn cael derbyniad yno.

Dywedodd y Cynghorydd Meredith: "Mae gan y Gwarchodlu Cymreig hanes balch ac rydym wrth ein bodd o'u gweld yn dod i Bowys ar gyfer eu gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi blynyddol.

"Yn anffodus ni chynhaliwyd yr orymdaith y llynedd oherwydd eira mawr felly bydd yn fraint i'w croesawu yn ôl a gobeithio y bydd y tywydd yn aros yn sych."

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu