Hafren Dyfrdwy ar daith i siarad â chwsmeriaid am eu biliau

11 Chwefror 2019
Dros yr wythnosau nesaf bydd rhai o gwsmeriaid Hafren Dyfrdwy yn dechrau derbyn eu bil dŵr cyntaf gan y cwmni.
Mae'r cwmni'n awyddus i siarad â phobl ac i esbonio sut y gallan nhw gael help gyda'u biliau os oes angen, felly mae'r cwmni'n mynd ar daith.
Fel esboniodd Louise Moir, Arweinydd Gwasanaethau Cwsmeriaid y cwmni: "Pan symudon ni o fod yn gwmni Dee Valley Water i Hafren Dyfrdwy y llynedd, roedd yn dipyn o newid i rai pobl. Rydym eisoes wedi siarad â nifer fawr o gwsmeriaid am y newidiadau ond dros yr wythnosau nesaf, dyma'r tro cyntaf i rai cwsmeriaid dderbyn bil gennym ni. Bydd y biliau'n edrych ac yn teimlo'n bur wahanol i'r hen filiau, felly byddwn wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan gwsmeriaid. Efallai mai ni sydd â'r biliau rhataf yng Nghymru, ond ry'n ni'n gwybod y bydd hi'n anodd iawn ar rai pobl, felly rydym am i bawb wybod bod help ar gael gan ein tîm cyfeillgar.
Rydym am siarad â chynifer o bobl â phosibl - os ydych chi'n cael trafferthion, efallai gallwn eich helpu chi gyda'r bil, neu os ydych am gael sgwrs - ry'n ni yma i helpu."
Bydd cwsmeriaid yn gallu cael sgwrs gyda thimoedd y cwmni rhwng 10am tan 4 pm bob dydd yn y mannau canlynol:
- Dydd Mawrth 12 Chwefror, Tesco Extra, Smithfield Rd, Y Trallwng, SY21 7BL
- Dydd Mercher 13 Chwefror, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
- Dydd Iau 14 Chwefror, Canolfan Gymuned Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BY
- Dydd Gwener 15 Chwefror, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Dywedodd Louise: "Mae edrych ar ôl ein cwsmeriaid yn bwysig i ni, ac mae'r timoedd yn edrych ymlaen at gael sgwrs wyneb yn wyneb â phobl, felly cofiwch alw i weld sut allwn ni helpu.