Llai na mis i fynd tan yr Ŵyl Gyrfaoedd

13 Chwefror 2019
Mae llai na mis i fynd nes y bydd un o wyliau gyrfaoedd mwyaf y DU yn cael ei chynnal ym Mhowys.
Mae Gŵyl Gyrfaoedd Powys a gynhelir ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn cael ei threfnu gan bartneriaeth Llwybrau Positif Powys ac yn denu mwy na 3,000 o fyfyrwyr o ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac addysg bellach o bob rhan o'r sir.
Mae'r achlysur, a gynhelir ddydd Mawrth 6 Mawrth, yn dwyn ynghyd rhyw 100 o gyflogwyr, prifysgolion a cholegau, yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau eraill i gynnig golwg ar y cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ifanc Powys.
Eleni bydd y digwyddiad yn cael ei lansio'n ffurfio gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams AC a bydd yn y cyfarfod cyflwyno'n cynnwys areithiau o bwys gan Ben Sheppard, cyflwynydd radio Breakfast ar Capital FM (cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Gwernyfed) Jason Pritchard sy'n wreiddiol o Lanfair-ym-Muallt ac wedi ennill Pencampwriaeth Rali Hanesyddol Prydain ddwywaith.
Dywedodd Cadeirydd y bartneriaeth, Jackie Parker: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr Ŵyl eleni ac wrth ein bodd y bydd y Gweinidog yn ei lansio. Roedd 2018 yn sioe werth chweil ac rydym yn gobeithio gwneud digwyddiad eleni hyd yn oed yn well.
"Rydym am ddangos bod cyfleoedd gyda'r goreuon yn y byd ar gael i'n pobl ifanc pan orffennant eu haddysg orfodol. Gallai hynny olygu swydd neu brentisiaeth, neu efallai parhau â'u haddysg yn yr ysgol, y coleg neu'r brifysgol.
"Efallai fod ganddynt ddiddordeb mewn gwirfoddoli mewn rhyw ffordd. Beth bynnag fo'u penderfyniad, rydym yn ceisio ei gwneud mor rhwydd â phosibl iddynt ddarganfod pa wybodaeth fydd ei hangen arnynt," meddai Mrs Parker, sydd hefyd yn Bennaeth yn Ysgol Uwchradd Crughywel.
Noddir yr Ŵyl eleni gan:
- Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach
- Hyfforddiant Cambrian
- Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
- Grŵp Colegau NPTC
- WestEnt audio visual
- Compact Orbital Gears Ltd
- Abacare
- Radnor Hills
- Dawnus
- ACT Training
- Lanyon Bowdler Solicitors
Mae Cymunedau am Waith hefyd yn cefnogi'r digwyddiad.
Mae'r digwyddiad am ddim i arddangoswyr a phobl ifanc, ond nid yw ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol, dim ond i fyfyrwyr.