Gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd

19 Chwefror 2019
Bydd gwasanaeth newydd yn casglu gwastraff o'r ardd, a luniwyd diolch i ymateb trigolion i ymgynghoriad, yn cael ei lansio yn y gwanwyn.
Bydd Cyngor Sir Powys yn cynnig y casgliad bob pythefnos a bydd yn rhedeg o ddechrau Ebrill tan ddiwedd Tachwedd am dâl blynyddol.
Er mwyn llunio'r gwasanaeth newydd hwn, cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad yn gofyn i bobl pa mor aml, am ba bris a pha fath o gynhwysyddion y dylid eu darparu.
Ymatebodd dros 2,000 o drigolion i'r ymgynghoriad y llynedd gyda hanner ohonynt yn dweud bod ganddynt ddiddordeb neu byddai ganddynt ddiddordeb yn y gwasanaeth casglu.
Roedd y rheiny oedd wedi dweud nad oedd ganddynt ddiddordeb yn y gwasanaeth yn un ai'n compostio gartref neu'n mynd â'u gwastraff o'r ardd i'r ganolfan ailgylchu gwastraff o'r cartref agosaf ac felly'n teimlo nad oedd angen y gwasanaeth arnynt.
Dywedodd 83 y cant o ymatebwyr y byddai tâl o rhwng £30 - £40 yn dderbyniol ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd. Roedd yr ymatebwyr a ymatebodd wedi eu rhannu o ran eu barn os dylid rhedeg y gwasanaeth trwy gydol y flwyddyn neu'n dymhorol.
O ofyn am farn am faint y cynwysyddion nodwyd bod dros 70% am gael y biniau mwy o faint sef 180 litr neu 240 litr. Roedd dros 500 o ymatebwyr i'r ymgynghoriad am i'r cyngor gysylltu â nhw pan fyddai'r gwasanaeth yn mynd yn fyw.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad y llynedd. Roedd hi'n glir o ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn bod gan bobl ddiddordeb yn y gwasanaeth newydd hwn ac mae eu hadborth wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth benderfynu ar sut i lunio'r gwasanaeth.
"Roedd bron i 50 y cant o'r bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad hwn wedi dweud eu bod yn teithio i gael gwared ar eu gwastraff o'r ardd. Bydd y gwasanaeth casglu yn golygu na fydd yn rhaid i drigolion gario gwastraff brwnt yn eu ceir ond hefyd bydd y tâl sy'n cael ei godi yn debygol o fod yn llai nag y byddent yn gwario ar danwydd yn mynd â'u gwastraff o'r ardd i fan casglu.
"Rydym wedi penderfynu darparu bin 240 litr ar gyfer y gwasanaeth hwn oherwydd rydym yn credu y bydd yn digon o faint ar gyfer anghenion y rhan fwyaf o arddwyr a dyma'r maint sydd wedi profi i fod y mwyaf effeithiol gan gynghorau eraill. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn cynnig bin llai o 120 litr am bris is ar gyfer yr aelwydydd hynny sydd â gerddi llai.
"Gofynnwyd i ni yn ystod yr ymgynghoriad pam fod trigolion yn gorfod talu am y gwasanaeth hwn. Nid oes gardd gan bob cartref yn y sir tra bod eraill yn dewis compostio yn eu cartrefi felly mae'n decach i wneud y gwasanaeth hwn yn un y bydd trigolion yn dewis i'w gael a bydd y sawl sy'n derbyn y gwasanaeth yn talu amdano."
Unwaith y bydd y gwasanaeth wedi'i gyflwyno, bydd y cyngor yn cael gwared ar y banciau gwastraff gwyrdd o safleoedd ailgylchu cymunedol. Bydd aelwydydd yn gallu para i fynd a'u gwastraff mwy o faint o'r ardd i un o'r pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref yn y sir.
"Mae banciau gwastraff gwyrdd ar safleoedd ailgylchu cymunedol yn unigryw i Bowys ac nid oes unrhyw oruchwyliaeth ar y safleoedd ac felly maen nhw'n cael eu cam-drin yn aml gan bobl yn tipio'n anghyfreithlon a garddwyr masnachol," dywedodd y Cynghorydd Davies.
"Rydym yn gwerthfawrogi bod hwn yn newid i nifer o ddefnyddwyr o'r banciau gwastraff o'r ardd ond rwy'n hyderus y bydd y gwasanaeth newydd hwn yn cael ei weld fel dewis mwy cyfleus. Mae'r gwasanaeth wedi profi i fod yn boblogaidd iawn gan gynghorau eraill."