Seren trin gwallt i siarad mewn gŵyl yrfaoedd

20 Chwefror 2019
Cyhoeddwyd prif siaradwraig arall ar gyfer Gŵyl Yrfaoedd Powys eleni fydd yn cael ei chynnal ddydd Mercher, 6 Mawrth 2019.
Bydd y seren o driniwr gwallt Lee Stafford yn mynychu gŵyl Llwybrau Positif Powys yn Llanelwedd. Hefyd mae e newydd gyhoeddi y bydd yn cydweithredu â Grŵp Colegau NPTC.
Un o'r gwyliau gyrfaoedd mwyaf yn y Deyrnas Unedig ydy hon lle daw tua thair mil o fyfyrwyr o ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig a cholegau ledled Powys.
Mae Lee yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac yn ymddangos yn rheolaidd ar raglen ITV This Morning. Mae hefyd wedi ymddangos ar Celebrity Scissor hands, Secret MillionaireaPointless.
Yn ogystal â chyflwyno dosbarth meistr ar y prif lwyfan yn yr ŵyl bydd Lee hefyd yn sôn wrth fyfyrwyr am sut ddatblygodd ei yrfa.
Fel rhan o'i gydweithio â'r coleg bydd yn gweithio gyda'r tîm Gwallt a Thriniaethau Harddwch yng ngrŵp NPTC. Bydd yn eu cynorthwyo i gyflawni hyfforddiant o safon Seren Michelin o'r radd flaenaf. Bydd y staff dysgu profiadol yn gwneud hyfforddiant dwys yn dysgu dulliau trin Lee Stafford fel y gallant drosglwyddo eu gwybodaeth i'r myfyrwyr ar eu cyrsiau.
Mae'r mudiadau canlynol yn noddi'r ŵyl eleni:
- Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach
- Hyfforddiant Cambrian
- Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
- Grŵp Colegau NPTC
- WestEnt audio visual
- Compact Orbital Gears Ltd
- Abacare
- Cwmni Dŵr Radnor Hills
- Dawnus
- Hyfforddiant ACT
- Cyfreithwyr Lanyon Bowdler
- EvaBuild
Mae'r digwyddiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Gymunedau dros Waith.
Mae grŵp Llwybrau Positif Powys yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys, Gyrfa Cymru, ysgolion uwchradd y sir, Grŵp Colegau NPTC, Hyfforddiant Cambrian Cyf a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO).