Prosiect Bloodhound yn dychwelyd i'r ŵyl yrfaoedd

27 Chwefror 2019
Bydd myfyrwyr sy'n ymweld â Gŵyl Yrfaoedd Powys yr wythnos nesaf yn cael cyfle i ddysgu am gar uwch sonig y Bloodhound, un o geir cyflymaf y byd.
Mae'r Ŵyl yn falch o groesawu'r prosiect peirianyddol byd eang hwn yn ôl i Faes y Sioe Fawr ddydd Mercher nesaf (6 Mawrth 2019). Bydd myfyrwyr yn gallu darganfod am yr ymgais i yrru'n gyflymach na mil o filltiroedd yr awr gan dorri'r record y byd am y car mwyaf cyflym ar y tir.
Mae disgwyl i tua thair mil o fyfyrwyr o ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig a Grŵp Colegau NPTC fynychu'r digwyddiad. Bydd tua chant o arddangoswyr yno gan gynnwys cyflogwyr, prifysgolion a cholegau, y lluoedd arfog a sefydliadau eraill gan gynnwys y sector gwirfoddol. Mae'r ŵyl yn cael ei threfnu gan Lwybrau Positif Powys - partneriaeth rhwng asiantaethau amrywiol.
Eleni mae'r digwyddiad yn cael ei noddi gan y mudiadau a'r cwmnïau canlynol:
- Grŵp Colegau NPTC
- Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
- Hyfforddiant Cambrian
- Cwmni dŵr Radnor Hills
- West Ent audio visual
- Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gyrfa Cymru
- Cyngor Sir Powys
- Compact Orbital Gears
- Abacare
- Dawnus
- Hyfforddiant ACT
- Cyfreithwyr Lanyon Bowdler
- EvaBuild
- Tai Wales and West
Mae'r digwyddiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Gymunedau dros Waith.
Partneriaeth yw'r Grŵp Llwybrau Positif rhwng y canlynol: Cyngor Sir Powys, Gyrfa Cymru, Ysgolion Uwchradd y sir, Grŵp Colegau NPTC, Hyfforddi Cambrian Cyf. a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO).
Mae'r digwyddiad am ddim i arddangoswyr a'r bobl ifanc sy'n mynychu ond niw yw'n agored i'r cyhoedd, dim ond i fyfyrwyr.