Her Beicio Elusennol

28 Chwefror 2019
Mae her feicio'n cael ei chynnal yn ne Powys yr wythnos hon i gefnogi elusennau nawdd Cadeirydd Cyngor Sir Powys.
Bydd Freedom Leisure yn cynnal digwyddiad beicio cyflym ddydd Gwener 1 Mawrth i godi arian tuag at St David's Hospice a Changen De Powys Parkinsons.
Bydd staff a chwsmeriaid ar safleoedd Freedom Leisure yn ne Powys yn cymryd rhan yn y digwyddiad beicio cyflym dros 1k. Bydd dau feic yn cael eu defnyddio yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu, Canolfan Chwaraeon Ystradgynlais, Canolfan Chwaraeon Llanfair-ym-Muallt a Chanolfan Chwaraeon Llandrindod rhwng 10am - 7pm ar gyfer yr heriau beicio cyflym, gyda gwobrau am yr amseroedd cyflymaf.
Bydd y beiciwr brwdfrydig a Rheolwr ar Ddyletswydd Freedom Leisure, Gareth Lawrence hefyd yn beicio o safle i safle gan wneud y daith cylchol o 171 km yn ystod y dydd. Bydd hefyd yn cwblhau'r her beicio cyflym 1k ym mhob un o'r canolfannau y bydd yn ymweld a hwy.
Dywedodd y Cyng David Meredith, Cadeirydd y Cyngor wrth ddymuno'n dda iddyn nhw: "Hoffwn ddiolch i Freedom Leisure am drefnu'r digwyddiad hwn a dymuno'n dda i bawb sy'n cymryd rhan."
Ychwanegodd Gwyn Owen, Rheolwr Ardal Freedom Leisure ar gyfer Powys: "Rydyn yn falch iawn o fod yn cydweithio gyda Chyngor Sir Powys i gefnogi'r elusennau lleol gwerthfawr yma. Mae'n gyfle delfrydol i bawb ymuno yn yr her, i wneud ymarfer corff a chodi arian ar yr un pryd."