Lansio Arolwg Gwelliannau i'r Llyn

28 Chwefror 2019
Rydym am gael barn trigolion a phobl sy'n defnyddio ac yn mwynhau ardal y llyn yn Llandrindod fel rhan o brosiect a fydd yn arwain at nifer o welliannau amgylcheddol dros y misoedd nesaf.
Derbyniodd Cyngor Sir Powys grant o £50k gan Lywodraeth Cymru dan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, i wella cyfleusterau o amgylch y llyn yn Llandrindod. Fel rhan o'r prosiect, mae'n awyddus i gael sylwadau trwy arolwg "cyn" ac "ar ôl" i fesur budd y gwaith i'r gymuned ac eraill sy'n mwynhau'r lle.
Ymhlith y gwaith dan sylw fydd adnewyddu llwyfannau pysgota, gosod llwybr pren a lle i wylio adar o amgylch y llyn. Ar gyfer y llwyfannau pysgota a'r llwybr pren, y bwriad yw defnyddio deunydd plastig wedi'i ailgylchu. Bydd byrddau dehongli hefyd yn cael eu codi fel rhan o'r cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Martin Weale, Aelod Portffolio dros yr Economi a Chynllunio: "Rwy'n bles ein bod ni wedi derbyn y grant hwn i ychwanegu at y gwelliannau a wnaed y llynedd. Rwy'n gwahodd unrhyw un sy'n defnyddio'r llyn a'r parc i lenwi'r arolwg byr cyn 31 Mawrth."
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Portffolio ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant: "Mae llyn Llandrindod yn un o nodweddion gorau'r dref. Mae'n le hyfryd i bobl fwynhau a gwerthfawrogi natur. P'un ai'n pysgota, cerdded, rhedeg neu seiclo, mae'r llyn a'r ardal gyfagos yn rhan bwysig o sicrhau lles ein trigolion. Bydd y gwaith hwn yn rhoi agwedd arall ar gyfleusterau'r llyn ac rwy'n siwr y bydd y lle gwylio adar yn denu lot o ddiddordeb gan ysgolion lleol a'r rhai sy'n ymddiddori mewn bywyd gwyllt a natur."
Mae'r arolwg am gael barn grwpiau sydd â diddordeb, ymwelwyr a'r rhai sy'n defnyddio'r llyn, ar y cyfleusterau presennol.
Y dyddiad cau yw 31 Mawrth 2019 ac i gyrraedd yr arolwg ewch i www.powys.gov.uk/dweudeichdweud