Agor Ysgol Carno

5 Mawrth 2019
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi bod ysgol gynradd newydd yng ngogledd y sir wedi agor ei drysau am y tro cyntaf heddiw (Dydd Mawrth, 5 Mawrth).
Mae staff a disgyblion Ysgol Carno wedi symud i'w adeilad newydd sbon ar ôl misoedd o waith adeiladu. Cafodd y gwaith ei wneud gan gwmni Paveaways o Groesoswallt.
Mae'r adeilad £1.5m yn golygu y bydd disgyblion yn cael eu dysgu mewn adeilad ysgol yr unfed ganrif ar hugain newydd sbon gyda darpariaeth blynyddoedd cynnar penodol wrth ymyl y neuadd gymunedol. Ni fydd angen iddynt ddibynnu ar ddosbarthiadau symudol mwyach sydd wedi cael eu dymchwel.
Roedd y gronfa ar gyfer y prosiect wedi'i rhannu 50/50 rhwng Cyngor Sir Powys a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru, gyda chyfraniad o £500,000 gan Gymdeithas Hamdden Carno, a roddwyd gan Ymddiriedolaeth Fferm Wynt Tirgwynt.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet ar faterion Addysg: "Mae hwn yn ddiwrnod gwych i gymuned ysgol Carno sy'n rhan o ffederasiwn llwyddiannus iawn. Yn yr un modd â threfniadaeth yr ysgol, mae'r prosiect o ganlyniad i gydweithio mewn partneriaeth greadigol ac mae'n dangos sut y gall cydweithio talu ar ei ganfed ar gyfer ein hysgolion pentref."
Mae'r ysgol yn rhan o ffederasiwn tair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, sef Carno, Glantwymyn a Llanbrynmair. Mae'r ffederasiwn ysgol wedi bod yn rhedeg ers 2014 gydag un corff llywodraethu, un tîm arweinyddiaeth a Phennaeth newydd gyda 157 o ddisgyblion ar draws tri safle.
Yn ddiweddar, dyfarniwyd y ffederasiwn yn rhagorol ar gyfer arweinyddiaeth gan Estyn gydag Ysgol Carno yn derbyn dyfraniad rhagorol ar gyfer safonau; profiadau addysgu a dysgu; ac arweinyddiaeth a rheolaeth.
Bydd seremoni ffurfiol i agor yr ysgol yn cael ei chynnal yn hwyrach eleni.