Pompren wedi'i hadnewyddu

11 Mawrth 2019
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi bod gwaith atgyweirio a gwelliannau helaeth wedi cael eu gwneud i bompren yng nghanolbarth Powys.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys wedi goruchwylio gwaith atgyweirio i'r bompren dros Nant Clywedog rhwng y Groes ac Abaty Cwm-hir.
Bu contractwr lleol Mervyn Price Plant Hire yn gwneud gwaith atgyweirio helaeth gyda rheiliau llaw metel a dec pren newydd yn cael eu gosod. Gosodwyd hefyd stripiau gwrthlithro ar strwythur y bont.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cefn Gwlad: "Roedd angen y gwelliannau hyn oherwydd roedd rheiliau llaw metel yr hen bompren yn pydru ac yn crymu ac roedd y dec pren yn dechrau pydru.
"Rydym yn gobeithio y bydd y bont ar ei newydd wedd yn rhoi llawer mwy o flynyddoedd o ddefnydd i'r cyhoedd i'r hawliau tramwy cyhoeddus lleol."