Cynnig newid terfynau cyflymder a phwysau yn Y Drenewydd

13 Mawrth 2019
Bydd terfynau cyflymder ar y ffyrdd sirol sy'n dod oddi ar ffordd osgoi'r Drenewydd yn newid fel rhan o gynigion sy'n cael eu hystyried gan Gyngor Sir Powys.
Rhaid i'r cyngor weithredu terfynau cyflymder 30 milltir yr awr (m.y.a.) a 40 m.y.a. ar hyd Ffordd Y Trallwng, Ffordd Ceri, Ffordd Dolfor a Ffordd Llanidloes ar ôl i waith adeiladu'r ffordd osgoi ddod i ben.
Yn ogystal â chynigion i newid y terfynau cyflymder mae'r cyngor hefyd yn ystyried diddymu eithriad sy'n caniatáu i gerbydau ag ochrau uchel deithio trwy Heol Treowen, Lôn y Blanhigfa, Maesyrhandir a Lôn Gerylli.
Mae'r cyngor hefyd yn cynnig ymestyn terfyn pwysau 7.5 tunnell i gynnwys y rhan ogleddol newydd o Middle Dolfor Road hyd at gylchfan newydd Ffordd Dolfor Isaf.
Cynigir yr holl newidiadau ers cwblhau gwaith ar ffordd osgoi'r Drenewydd pan ail-ddosbarthwyd nifer o ffyrdd - nid ydynt yn gefnffyrdd bellach.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae agor ffordd osgoi'r Drenewydd yn golygu bod rhaid i ni newid rhai o'r gorchmynion traffig sydd mewn grym.
"Bellach nid yw'r ffyrdd trwy'r Drenewydd yn gefnffyrdd: maen nhw wedi cael eu hailddosbarthu'n briffyrdd sirol ac felly'r cyngor sy'n gyfrifol amdanynt. Nod y newidiadau i'r terfynau cyflymder rydym yn eu cynnig yw sicrhau diogelwch wrth gylchfannau newydd y ffordd osgoi.
"Ni fydd rhaid i lorïau ddefnyddio ffyrdd preswyl ar hyd Heol Treowen, Lôn y Blanhigfa, Maesyrhandir a Lôn Gerylli i osgoi pontydd rheilffyrdd isel yn Nantoer a Ffordd Dolfor. Daw hyn ar ôl agor ffordd osgoi'r Drenewydd felly rydym yn cynnig diddymu'r eithriad hwn. Fodd bynnag, os bydd y ffordd osgoi'n cael ei chau mewn argyfwng bydd y cerbydau hyn yn cael defnyddio'r ffyrdd hyn o hyd.
"Mae Middle Dolfor Road o dan orchymyn terfyn pwysau 7.5 tunnell yn barod felly rydym yn cynnig ymestyn y gorchymyn hwn i ran newydd y ffordd hyd at gylchdro Ffordd Dolfor Isaf."
Pe ddymunech weld penderfyniadau dirprwyedig yr Aelod Portffolio ewch i https://powys.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=673&MId=4927&Ver=4 am y cynigion o ran y terfynau cyflymder. I weld y cynigion terfyn pwysau ewch i https://powys.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=673&MId=4926&Ver=4