Dawnus Construction

13 Mawrth 2019
Dywedodd Cyngor Sir Powys y gallai problemau ariannol sy'n wynebu cwmni adeiladu o Dde Cymru arwain at atal gwaith ar dair ysgol ym Mhowys.
Cwmni Dawnus Construction Ltd gafodd y cytundebau i adeiladu tair ysgol newydd sbon yn y sir - ysgol gynradd Saesneg i 360 o ddisgyblion, ysgol gynradd Gymraeg i 150 o ddisgyblion - y ddwy yn Y Trallwng, ac adeilad newydd i'r ysgol pob oed gyntaf yn y sir sef Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.
Mae gwaith yn mynd yn dda ar yr ysgol Saesneg ar dir ger Ysgol Uwchradd Y Trallwng, gan fod i orffen erbyn mis Medi. Mae'r ddau brosiect arall yn dal i fod ar y cam cynllunio, ac nid oes dim gwaith adeiladu wedi digwydd hyd yma.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Dysgu a'r Gymraeg, y Cynghorydd Myfanwy Alexander: "Mae'r cyngor sir yn ymwybodol o adroddiadau yn y wasg yn tynnu sylw at sefyllfa ariannol y cwmni, ac mae'n monitro'r sefyllfa'n agos iawn. Nid yw'r cyngor wedi derbyn unrhyw gyswllt ffurfiol gan y cwmni. Mae Dawnus yn bartner allweddol yn nifer o'n prosiectau moderneiddio ysgolion, a byddwn yn gweithio i liniaru unrhyw broblemau all godi."