Fforwm Rhieni a Gofalwyr ADY Powys

Rhieni, gofalwyr a'r awdurdod lleol yn cydweithio ac yn cydnabod profiadau, sgiliau a gwybodaeth ei gilydd i helpu i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc ym Mhowys."
Bydd Cyngor Sir Powys yn helpu i ddatblygu'r fforwm annibynnol hwn i rieni a gofalwyr, ac yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr i gynnig y cymorth addysgol gorau i blant a phobl ifanc Powys.
Beth yw fforwm rhieni/gofalwyr?
Mae'n grŵp anffurfiol lle bydd cyfle i rieni, gofalwyr a staff leisio barn a chydweithio er mwyn bwydo i bolisïau ac arferion ADY fel sydd ar agenda'r cyfarfod. Er mwyn cael trafodaethau a chydweithio effeithiol, mae'n bwysig cadarnhau bod y fforwm rhieni/gofalwyr yn:
- fodd i atgyfnerthu llais rhieni/gofalwyr;
- grŵp ymgynghori a chynghori;
- modd i rieni/gofalwyr ddatgan barn a dylanwadu ar benderfyniadau.
Croeso I rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc ym Mhowys sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Neu os hoffech gael gwybodaeth am ein darpariaeth addysg presennol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, cysylltwch â ni drwy'r fanylion isod: Pe ddymunech gael mwy o wybodaeth am Raglen Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol mae croeso i chi gysylltu â ni: Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma