Rhaglen Gwella Ysgolion

18 Mawrth 2019
Bydd ysgolion Powys yn derbyn £2m o fuddsoddiad yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dod fel rhan o gynllun gwella sylweddol os yw cabinet y cyngor sir yn cymeradwyo hyn.
Gofynnir i'r cabinet gymeradwyo cronfa wella o £2m ar gyfer gwaith ysgolion cynradd ac uwchradd gan gynnwys:
- gwella mynediad i bobl anabl,
- gwaith diogelwch,
- gwella cyfleusterau chwaraeon a
- gwelliannau i'r ystafelloedd dosbarth i gefnogi rhaglen yr unfed ganrif ar hugain yn y flwyddyn ariannol 2019/20.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio ar faterion Dysgu a'r Gymraeg:
"Mae'r prosiectau a nodir yn y ddogfen hon yn fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor Sir. Mae'n amlinellu'r buddsoddiad mewn ysgolion ledled y sir fel rhan o'n huchelgais i ddarparu amgylcheddau dysgu priodol i bob person ifanc ar gyfer Addysg yr Unfed Ganrif ar Hugain."
Bydd y gwaith sydd wedi'i gynllunio'n cynnwys bron £400,000 ar gyfer gwelliannau o bwys yn Ysgol Calon Cymru, Llanfair-ym-Muallt i wella mynediad i'r anabl, ailwampio'r toiledau ac atgyweirio'r lifft. Mae Ysgol Gynradd Penygloddfa yn y Drenewydd wedi'i chlustnodi i gael buddsoddiad o fwy na £70,000 am wal ffiniol newydd a gwaith atgyweirio ar y to.
Mae gwaith i wella'r boeler, gwaith diogelwch a gwella cyfleusterau i'r anabl yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin wedi'i restru yn rhan o'r gwaith ar gost o fwy na £150,000, yn ogystal â gwaith i wella ffenestri gwerth £75,000 yn Ysgol Bro Cynllaith, Llansilin.
Bydd Ysgol Uwchradd y Trallwng hefyd yn cael gwaith gwella gwerth £25,000 i wella cae pob tywydd yr ysgol a bydd Ysgol Gynradd Rhaeadr Gwy yn cael £80,000 i wario ar welliannau iechyd a diogelwch.
Bydd dros £400,000 yn cael ei fuddsoddi mewn nifer o ysgolion o amgylch y sir i wella effeithlonrwydd ynni.
Bydd y cabinet yn ystyried yr adroddiad ar 26 Mawrth.