Canolfan newydd ar gyfer Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref bron yn barod

22 Mawrth 2019
Mae'r gwaith o ddatblygu canolfan newydd ar gyfer ailgylchu gwastraff o'r cartref yng ngogledd Powys bron â dod i ben, yn ôl y Cyngor Sir.
Mae'r contractwyr Alun Griffiths Ltd wedi bod yn gweithio ar y ganolfan newydd ar Stad Ddiwydiannol Dyffryn yn y Drenewydd ar ran Cyngor Sir Powys.
Mae'r cyngor yn disgwyl y bydd y ganolfan yn cael ei rhedeg o'i safle newydd ganol mis Ebrill.
Mae'r safle, sy'n perthyn i'r cyngor, yn ychwanegu at y safleoedd eraill ym mherchnogaeth y Cyngor, yn Aberhonddu, Llandrindod a Chwm-twrch Isaf, Ystradgynlais.
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Rwyf wrth fy modd fod ein canolfan newydd ar gyfer ailgylchu o'r cartref yn y Drenewydd bron yn barod.
"Bydd y ganolfan newydd yn welliant sylweddol ar y safle presennol yn y dref gan ei fod wedi'i adeiladu i'r diben ac wedi'i ddylunio i wella'r llif traffig a'i gwneud yn haws i breswylwyr ailgylchu eu gwastraff.
"Mae ein buddsoddiad yn y ganolfan newydd yn rhan o'n cynlluniau tymor hir i sicrhau cyfleusterau strategol ar gyfer ailgylchu a gwastraff ar draws y sir. Mae bod â chanolfannau ailgylchu gwastraff o'r cartref yn ein meddiant ni yn helpu i sicrhau'r gwasanaeth gwerthfawr yma.
"Mae canolfannau ailgylchu gwastraff o'r cartref yn gyfraniad pwysig at gyflawni targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o ailgylchu o leiaf 70 y cant o'n gwastraff erbyn 2025."
Er bydd y ganolfan yn cael ei rhedeg o safle newydd, ni fydd newid i'r oriau agor. Dyma'r oriau agor presennol:
- Dydd Llun - 9am-5pm
- Dydd Mawrth - 9am-5pm
- Dydd Mercher - 9am-5pm
- Dydd Iau - Ar gau
- Dydd Gwener - Ar gau
- Dydd Sadwrn - 10am-4pm
- Dydd Sul - 10am-4pm
Bydd yn rhaid i ddeiliaid tŷ sydd am ddefnyddio cerbydau masnachol i gludo'u gwastraff o'r cartref i'r ganolfan wneud cais o hyd i gael trwydded gan y cyngor i ddefnyddio cerbyd masnachol ac ôl-gerbyd (CV) a gallant wneud hynny trwy fynd i www.powys.gov.uk/recycle