Gwahodd datganiadau o ddiddordeb

27 Mawrth 2019
Mae Cyngor Sir Powys yn gwahodd busnesau sydd â diddordeb yn Neuadd Farchnad hanesyddol Aberhonddu i gysylltu er mwyn trafod ei ddyfodol.
Mae Bwrdd Asedau Strategol y cyngor sir wedi bod yn ystyried sut orau i reoli'r adeilad a gwireddu ei botensial economaidd llawn er budd masnachwyr, trigolion a'r gymuned.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau, y Cynghorydd Phyl Davies: "Mae Neuadd y Farchnad yn adeilad pwysig yng nghanol Aberhonddu ac mae ei ddefnydd yn y dyfodol yn bwysig iawn i fasnachwyr a thrigolion. Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae'n anodd i'r cyngor sir fuddsoddi yn ei ddyfodol ac rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan rywun sydd am gymryd y gwaith.
"Mae Neuadd y Farchnad yn ased pwysig ac rydym yn chwilio am bartner addas sydd â hanes blaenorol a'r adnoddau priodol i gymryd yr adeilad. Yn y dyfodol, gallai fod yn bosibl prydlesu'r adeilad neu'i drosglwyddo i gwmni newydd a mwynhau dyfodol masnachu disglair.
"Byddwn yn hysbysebu'n fuan ac yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ni cyn trafod ffordd ymlaen i'r adeilad. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â masnachwyr presennol trwy gydol y broses", dywedodd.
Am ymholiadau neu i ddatgan diddordeb, e-bostiwch property.sales@powys.gov.uk
Y dyddiad cau i dderbyn datganiadau o ddiddordeb yw 30 Ebrill.