Gwaith ar eiddo yn Y Drenewydd

28 Mawrth 2019
Mae staff Llywodraeth Cymru'n debygol o ymuno â staff Cyngor Sir Powys yn Neuadd y Sir, Llandrindod fel rhan o gytundeb newydd rhwng y ddau gorff.
Yn y cytundeb cyntaf o'i fath yn y sir, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i brydlesu rhan o'r llawr gwaelod yn Neuadd y Sir - yn amodol ar y cytundeb cyfreithiol terfynol - fel canolfan i'r staff sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y swyddfeydd gerllaw ac eraill sy'n symud o'r Drenewydd.
Mae'r ddau gorff hefyd wedi cyhoeddi cytundeb newydd a fydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru'n gadael y llawr gwaelod yn Ladywell House cyn cymryd prydles newydd i'w swyddfeydd presennol ar y trydydd llawr yn y swyddfeydd yng nghanol y dref. Fel rhan o'i ymrwymiad i aros yn ei swyddfa yn Y Drenewydd, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sôn y bydd yn ailgynllunio ac yn ailwampio cynllun y swyddfeydd hyn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Eiddo, y Cynghorydd Phyl Davies: "Mae'n bleser cael cyhoeddi'r cytundebau newydd rhwng Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru a fydd yn arwain at ddefnydd effeithiol o adeiladau cyhoeddus gan ddau sefydliad y llywodraeth.
"Mae pawb yn wynebu pwysau ariannol sylweddol a ffordd amlwg o sicrhau ein bod yn defnyddio adnoddau gwerthfawr mor effeithiol â phosibl yw trwy rannu cyfleusterau. Rwy'n gobeithio y bydd y datblygiad yn Neuadd y Sir a'r cytundebau newydd yn Ladywell House, Y Drenewydd yn ddechrau ar well cydweithio rhwng gwahanol rannau'r sector cyhoeddus.
"Bydd defnyddio a rheoli eiddo mewn ffordd ddychmygol yn ffactor bwysig wrth drawsnewid gwasanaethau llywodraeth leol. Mae cytundebau fel hyn yn gallu cynhyrchu incwm defnyddiol i Bowys a lleddfu'r pwysau ar gyllid y cyngor.
"Mae'n braf gweld bod buddsoddiad yn seilwaith a chyfleusterau Neuadd y Sir, a oedd yn rhan bwysig o ddenu Llywodraeth Cymru i'r safle, wedi dwyn ffrwyth."
Gallai'r gwaith o addasu'r swyddfeydd yn Neuadd y Sir gychwyn yn yr haf gyda staff Llywodraeth Cymru'n symud i'r adeilad yn 2020.
Bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar osod ffenestri newydd yn Ladywell House fel rhan o waith a gynlluniwyd i adnewyddu'r adeilad. Mae'r contractwyr Paveaway eisoes wedi dechrau ar y dasg o godi sgaffaldiau o amgylch yr adeilad, ac mae disgwyl i'r gwaith bara tan ganol yr haf.
"Mae'r gwaith wedi'i amseru i fanteisio ar y tywydd gwell, gan roi cyfle i ni osod ffenestri newydd, rhoi to newydd a thrwsio unrhyw frics. Mae'r tenantiaid presennol wedi cael gwybod am y gwaith adnewyddu, " ychwanegodd y Cynghorydd Davies.