Llwyddiant syniad busnes TG myfyrwyr y Drenewydd

02 Ebrill 2019
Roedd tîm o fyfyrwyr o gampws y Drenewydd Grŵp Colegau NPTC yn fuddugol mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan grŵp Llwybrau Positif Powys.
Bellach maen nhw'n gobeithio y bydd pobl yn bwcio'u busnes, sef Smart Integrate, sy'n ceisio helpu pobl nad oes ganddynt hyder wrth ddefnyddio TG i sefydlu technoleg graff yn eu cartrefi neu'u busnesau.
Roedd yr her a osododd y bartneriaeth yn gofyn i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig a myfyrwyr addysg bellach yn y sir feddwl am syniad busnes a fyddai'n gweithio yn y sir.
Yn ogystal ag ennill tlws, cafodd y tîm a oedd yn fuddugol allan o dros 30 yn y gystadleuaeth, gwerth £200 o docynnau rhoddion, trwy garedigrwydd What About Me Training Ltd a Weale's Wheels. Gwahoddwyd y tîm i gyflwyno'u syniad i Gabinet y cyngor sir yn ddiweddarach y mis yma.
Cynghorydd Sir Powys Myfanwy Alexander oedd yn cadeirio'r panel beirniaid yn Neuadd y Sir, Llandrindod, ddydd Mercher. Dywedodd: Mae Powys yn sir lle mae yna fenter, a busnesau bychain yw asgwrn cefn ein heconomi lleol. O'r brwdfrydedd a'r weledigaeth a welsom ymhlith ein pobl ifanc, bydd ganddynt yr holl sgiliau a brwdfrydedd i allu sbarduno ein heconomi ymlaen. Roedd yn bleser gwrando ar eu syniadau gwych, ac yn anodd iawn dewis enillydd: fel beirniaid roedden ni'n teimlo mai ni oedd yr enillwyr mewn gwirionedd, yn cael cyfle i glywed eu cynlluniau, oedd yn fanwl, yn ymarferol ac yn ysgogol."
Mae tîm Smart Integrate wedi sefydlu gwefan i dderbyn ymholiadau ac archebion yn https://smartintegrate.wixsite.com/smartintegrate ac mae'r gwasanaeth hefyd i'w gael trwy Instagram.
Enillodd tîm o Ysgol Uwchradd Aberhonddu'r tlws arian gyda'u syniad am gaffi iach yng nghanol tref Aberhonddu.
A myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Crughywel enillodd y tlws Efydd am eu syniad o barc gwyliau a pharc thema ym Mannau Brycheiniog.
Gyda'r Cyng. Alexander ar y panel beirniaid roedd:
- Y Cyng. Martin Weale o Gyngor Sir Powys
- Guy Morgan o IT's Dun (cwmni TG a Theledu Cylch Caeedig yng Nghanolbarth Cymru)
- Sharon Hughes a Kate Tabb o What About Me Ltd, sef cwmni sy'n ymrwymo i gefnogi pobl sy'n gweithio gyda phlant agored i niwed
- Helen Roderick o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Jason Rawbone, Arweinydd Proffesiynol Arlwyo gyda Chyngor Sir Powys.
Cynhaliodd grŵp Llwybrau Positif Powys drydedd Ŵyl Gyrfaoedd Powys yn Llanelwedd, lle daeth rhyw 3,000 o ddysgwyr o bob rhan o Bowys i weld tua 100 o arddangosfeydd er mwyn darganfod pa ddewisiadau fyddai ar gael iddynt pan fyddant yn gadael addysg orfodol. Mae'r grŵp yn cynnwys Cyngor Sir Powys, ysgolion uwchradd y sir, Gyrfa Cymru, Cambrian Training Ltd, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) a Grŵp Colegau NPTC.