Rhybuddio ynglŷn â sgâm Treth y Cyngor

03 Ebrill 2019
Mae twyllwyr wrthi'n camfanteisio ar ddeiliaid ty sy'n derbyn eu biliau treth y cyngor newydd, yn ôl y Cyngor.
Mae Cyngor Sir Powys yn cyflwyno'r rhybudd yn dilyn adroddiadau lle mae galwyr diwahoddiad wedi ffonio aelwydydd ym Mhowys yn ddiwahoddiad, gan ddweud eu bod yn gallu cynorthwyo i gael eich eiddo wedi'i ailfandio at ddibenion treth y Cyngor.
Mae'r galwr yn dweud eu bod yn gallu darparu'r gwasanaeth yma ac yn gofyn am fanylion banc er mwyn iddynt dderbyn y tâl.
Dywedir bod rhai troseddwyr yn defnyddio'r rhestrau o rai hawdd eu twyllo - sy'n cynnwys manylion y rheiny sydd wedi'u sgamio eisoes.
Mae Cyngor sir Powys yn erfyn ar bobl i fod yn ymwybodol o unrhyw un sy'n ffonio ac yn dweud bod ganddynt hawl i ad-daliad neu ail-fandio.
Dywedodd Y Cyng James Evans, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Safonau Masnach: "Wrth i ni symud i mewn i'r misoedd lle bydd trigolion Powys yn derbyn eu biliau treth y cyngor newydd, credwn ei bod yn bosibl y bydd y sgamwyr yn defnyddio'r cyfle i dargedu pobl. Mae angen i drigolion fod yn ochelgar iawn o unrhyw un sy'n gofyn am fanylion eu cerdyn banc dros y ffôn."
Dywedodd Clive Jones, Arweinydd Proffesiynol y cyngor ar Safonau Masnach, Diogelwch Cymunedol a Chynllunio Argyfwng: "Er bod rhybudd cyffredinol wedi mynd allan ar led i ddweud bod hyn yn digwydd mewn rhannau eraill o Gymru a'r DU, mae'r sgamwyr bellach yn targedu aelwydydd Powys
"Peidiwch â rhoi eich manylion personol neu fanylion banc i unrhyw un oni bai mai chi sydd wedi ysgogi'r alwad ac rydych yn siŵr bod y sawl rydych yn siarad ag ef yn gwbl ddilys."
Dylai trigolion sy'n dymuno adrodd ynglŷn â galwadau o'r fath, a chael cyngor ymarferol, gysylltu â llinell gymorth gwasanaethau defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 03454 040506
I gael gwybodaeth bellach am Dreth y Cyngor ym Mhowys fynd i https://cy.powys.gov.uk/trethycyngor