Dechrau casglu gwastraff o'r ardd

03 Ebrill 2019
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno gwasanaeth newydd i gasglu gwastraff o'r ardd.
Yr wythnos hon, mae Tîm Ailgylchu a Gwastraff y cyngor wedi dechrau casglu gwastraff o'r ardd yn uniongyrchol oddi wrth aelwydydd.
Bu diddordeb sylweddol yn y gwasanaeth newydd ac mae aelwydydd newydd yn cofrestru ar ei gyfer bob dydd. Mae'r rheiny sydd eisoes wedi tanysgrifio yn gallu manteisio ar y gwasanaeth casglu gwastraff gardd o ymyl y ffordd unwaith bob pythefnos hyd ddiwedd mis Tachwedd.
Mae yna amser o hyd i gofrestru am y gwasanaeth newydd sbon yma. Am ddim ond £35 bydd y cyngor yn darparu bin 240 litr ar olwynion ac yn casglu gwastraff o'r ardd bob pythefnos o 10 diwrnod wedi i chi archebu'r gwasanaeth.
Bydd bin llai 120 litr ar gael am bris is i dai gyda gerddi bychain.
Mae'n rhwydd cofrestru, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw mynd i www.powys.gov.uk/gwastraffgardd neu ffonio 01597 827465.
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Rwy'n falch fod ein gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd wedi dechrau. Hoffwn i ddiolch i'r rheiny sydd eisoes wedi tanysgrifio, a gobeithio y byddant yn gallu gweld manteision y gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd o'u cartrefi.
"Mae ein gwasanaeth casglu'n golygu na fydd yn rhaid iddynt faeddu'u ceir trwy eu llenwi â thoriadau glaswellt. Mae'r ffi yn debygol o fod yn llai na'r hyn fyddai'r rhan fwyaf o drigolion yn ei dalu ar danwydd i fynd â'r gwastraff o'r ardd i fan casglu."