Cael gwared ar fanciau gwastraff o'r ardd

08 Ebrill 2019
Mae Cyngor Sir Powys wedi datgan y bydd yn cael gwared ar fanciau gwastraff o'r ardd yn safleoedd ailgylchu cymunedol y sir dros y pythefnos nesaf.
Bellach, mae'r cyngor yn cael gwared ar y banciau yn 35 o safleoedd ailgylchu cymunedol gan ei fod wedi cyflwyno ei wasanaeth casglu gwastraff o'r ardd bob pythefnos.
I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd newydd bob pythefnos, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymweld â www.powys.gov.uk/gwastraffgardd neu ffonio 01597 827 465.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet dros Ailgylchu a Gwastraff: "Mae banciau gwastraff gwyrdd ar safleoedd ailgylchu cymunedol yn unigryw i Bowys ac yn anffodus maen nhw wedi bod yn agored i gam-drin gan dipwyr anghyfreithlon a garddwyr masnachol.
"Rydym yn sylweddoli y bydd y gymuned yn gorfod addasu rhywfaint yn sgil colli'r banciau gwastraff gardd, ond rydym yn rhagweld y bydd y gwasanaeth ymyl y ffordd newydd yn cynyddu maint y gwastraff gardd y byddwn yn ei gasglu ac y gallwn ei gompostio. Bydd hefyd yn darparu gwasanaeth mwy cyfleus i drigolion ac yn golygu arbediad i'r awdurdod."
Gall yr aelwydydd hynny nad ydynt am gymryd rhan yn y gwasanaeth newydd parhau i ddefnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff o'r cartref y cyngor neu gompostio eu gwastraff gwyrdd gartref.