Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llinell Ofal Amodau a Thelerau

Gwasanaeth monitro larymau 24 awr yw Llinell Ofal Powys.  Mae gweithwyr yn cael eu hyfforddi i ymateb i alwadau a ddaw trwy'r larwm Llinell Ofal, byddan nhw'n cysylltu â'r gwasanaethau brys neu rywun a enwebwyd, yn dibynnu ar y sefyllfa sydd o'u blaen.

Cyfarpar

Byddwch yn rhentu unrhyw gyfarpar gan Linell Ofal Powys a rhaid ei ddychwelyd pan na fydd ei angen mwyach.  Rhaid cymryd gofal rhesymol i sicrhau bod y cyfarpar yn cael ei gadw'n ddiogel ac nad yw'n cael ei gamddefnyddio / difrodi, neu bydd rhaid talu am y difrod.

Bydd Llinell Ofal Powys yn monitro'r cyfarpar ac yn ymateb i larymau yn ôl eu protocol a/neu wybodaeth a gafwyd gan y defnyddiwr.   Bydd Llinell Ofal Powys yn gyfrifol am gynnal a chadw a newid yr offer.

Gosod yn y cartref

Os ydych wedi dewis rhaglennu'r larwm o flaen llaw a'i anfon i'ch cartref drwy'r post i chi ei gysylltu eich hun, cofiwch sicrhau eich bod yn cysylltu'r larwm ar yr un wal â'r soced plwg er mwyn osgoi'r perygl o faglu.   Gall y larwm effeithio ar systemau eraill sy'n defnyddio'r llinell ffôn.  Os cewch unrhyw broblemau wrth osod y larwm, cysylltwch â ni ac fe wnawn drefnu i rywun alw gyda chi i ddatrys y broblem, ond bydd rhaid talu am hyn.

Ar ôl gosod y larwm, mae'n RHAID i chi wneud galwad prawf cyntaf yn ôl y cyfarwyddiadau i sicrhau bod y larwm wedi'i gosod yn gywir.  Os nad oes angen y larwm mwyach, dychwelwch y larwm i ni ond byddwch yn dal i orfod talu am ei gosod.  Os na fyddwch yn gwneud y galwad prawf cyntaf, bydd rhaid talu costau gosod, rhentu a monitro  21 diwrnod ar ôl derbyn.  Ni fydd Llinell Ofal Powys yn gyfrifol am unrhyw broblemau os na fyddwch yn gwneud y galwad prawf.

Bydd angen i chi brofi eich uned larwm a theclyn o amgylch eich gwddf y Llinell Ofal bob mis.

Prisiau

Gallwch weld y prisiau am y gwasanaeth hwn ar y daflen brisiau Rhentu a Monitro Llinell Ofal Powys

Byddwn yn codi'r anfoneb gyntaf wrth osod y larwm.  Bydd hyn yn cynnwys costau gosod a chostau rhentu a monitro am weddill y chwarter.  Os penderfynwch chi ganslo'r larwm yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhaid talu'r costau gosod.  Byddwch hefyd yn gorfod talu'r costau rhentu a monitro o'r dyddiad gosod i'r dyddiad y cawsom wybod eich bod yn canslo.  Ewch i'r adran Dod â'r Gwasanaeth I ben, am ragor o wybodaeth.

Bydd y defnyddiwr yn cytuno i dalu'r costau a gytunwyd fesul chwarter neu bob mis fel ôl-daliad wedi hynny.  Ar ôl yr anfoneb gyntaf, gallwch dalu trwy ddebyd uniongyrchol ac rydym yn annog hynny.

Sylwch fod y costau rhentu a monitro'n gyfradd safonol ac ni fyddwch yn gallu talu llai am y rhesymau canlynol:  eich bod i ffwrdd ar wyliau, mae gennych broblem gyda'r llinell ffôn neu os ydych wedi bod mewn seibiant cyfnod byr.

Efallai y gallwch ohirio'r cyfrif am y tro, megis os yw'r cwsmer yn yr ysbyty ac yn disgwyl pecyn gofal cyn ei ryddhau, neu os yw'r cwsmer yn cael ei gymryd i'r ysbyty ac y bydd yno am gyfnod hir.   Dylech gysylltu â ni'n uniongyrchol ar 01597 827639 os mai dyma'r achos, gan y bydd methu gwneud hyn yn golygu y bydd rhaid talu.

Bydd prisiau rhentu a monitro'n cael eu hadolygu'n flynyddol ar 1 Ebrill bob blwyddyn.  Os bydd prisiau'n codi, bydd defnyddwyr yn cael gwybod am hyn o leiaf fis o flaen llaw.

Bydd defnyddwyr anabl neu ag anabledd cronig yn gallu derbyn y gwasanaeth hwn heb TAW, a dylech lenwi'r adran eithrio o TAW ar ffurflen gais Llinell Ofal.  Os nad ydych yn llenwi'r adran hon a'ch bod chi'n rhoi gwybod i ni nes ymlaen am hyn, ni fyddwn yn gallu ôl-ddyddio'r eithriad a bydd yn dod i rym o'r cyfnod y cawsom wybod.

Beth yw ystyr 'salwch neu anabledd cronig'?

Mae gan rywun salwch neu anabledd cronig os oes ganddo/ganddi:

  • nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith tymor hir a sylweddol andwyol ar ei allu i wneud gweithgareddau beunyddiol;
  • cyflwr y mae'r proffesiwn meddygol yn ei drin fel salwch cronig, megis diabetes; neu
  • â salwch angheuol.

Mae cyflwr cronig yn gyflwr neu'n glefyd iechyd sy'n barhaus neu ag effeithiau hirdymor.  Fel arfer, mae'r term cronig yn cael ei ddefnyddio pan fydd cwrs y clefyd yn para dros dri mis.  Ymhlith y clefydau cronig cyffredin yw arthritis, asthma, canser, COPD, diabetes ac AIDS.

Nid yw'n cynnwys rhywun hŷn ac eiddil sydd ddim yn anabl fel arall neu rywun sy'n anabl dros dro'n unig o ganlyniad er enghraifft i dorri asgwrn.

Cyfrifoldeb Llinell Ofal Powys 

Bydd Llinell Ofal Powys yn:

cynnig gwasanaeth monitro 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn i'r defnyddiwr.  Heb ragfarnu, ni fydd y Cyngor yn gyfrifol os bydd y gwasanaeth yn torri lawr am resymau tu hwnt i'w reolaeth.

Ymateb yn bositif i bob galwad p'un ai'n argyfyngau go iawn neu'n alwad diangen, a siarad â'r defnyddiwr i gadarnhau a oes angen help.

Os bydd y larwm yn canu gan fethu cysylltu â'r defnyddiwr, bydd y Llinell Ofal yn cysylltu ag eraill a enwebwyd gan y defnyddiwr neu'r gwasanaethau brys i ofyn am gymorth.

Byddwn yn recordio pob galwad a dderbynnir er mwyn sicrhau ansawdd ac mewn achosion prin, er mwyn cael tystiolaeth.

Cyfrifoldeb defnyddiwr y gwasanaeth

Mae'r defnyddiwr yn deall y byddan nhw'n gyfrifol am rentu'r llinell ffôn y bydd y gwasanaeth larwm gymunedol yn cael ei gysylltu â gwasanaeth monitro Llinell Ofal Powys.  Heb linell ffôn llinell dir sy'n gweithio, ni fyddwch yn gallu defnyddio gwasanaeth larwm Llinell Ofal.

Mae'r defnyddiwr hefyd yn deall eu bod yn gyfrifol am gostau rhedeg y larwm (fawr o gostau trydan) a chostau galwad ffôn lleol bob tro y gelwir y larwm.  Bydd y defnyddiwr yn darparu cyflenwad trydan addas o fewn 2 metr o'r blwch ffôn er mwyn cysylltu'r larwm cymunedol.  Gall y defnyddiwr ddarparu cebl estyniad o 2 fetr ond ni ddylai'r cebl hwn groesi drysau na mannau cerdded.

Trwy drefniant blaenorol, bydd y defnyddiwr yn caniatáu mynediad i Bowys neu i gontractwr a gyflogir ar eu rhan, i osod, cynnal a chadw a thynnu'r offer fel sy'n briodol.

Bydd angen i chi brofi eich uned larwm a theclyn o amgylch eich gwddf y Llinell Ofal bob mis.  I brofi eich teclyn o amgylch eich gwddf, pwyswch y botwm coch ar y teclyn a phan fydd y ganolfan alwadau'n ateb, dywedwch 'galwad brawf'.  Yna bydd y ganolfan alwadau'n cau'r alwad honno.  Yn ogystal â hyn, pwyswch y botwm coch ar eich uned larwm Llinell Ofal i brofi ei fod yn cysylltu â'r ganolfan alwadau.  Unwaith eto, dywedwch 'alwad brawf'.  Os oes unrhyw broblemau pan fyddwch yn pwyso eich teclyn/uned larwm neu os na fyddwch yn cael ateb o'r ganolfan alwadau, ffoniwch ni ar unwaith ar 01597 827639

Os yn bosibl, gofynnir i'r defnyddiwr enwebu dau gyswllt argyfwng sydd ag allwedd i fynd mewn i dŷ'r defnyddiwr mewn argyfwng neu a fydd yn gwybod lle mae allwedd.  Dylai unrhyw un a enwebwyd felly (gydag allwedd) fod wedi cytuno i wneud hyn pan fydd argyfwng.

Os nad yw'r defnyddiwr yn gallu enwebu rhywun i gadw'r allweddi, rydym yn eu hannog i osod sêff allweddi i gadw allwedd i'w ddefnyddio gan y gwasanaethau brys.

Mae'r defnyddiwr yn cytuno i roi gwybod i Linell Ofal Powys mor fuan â phosibl am unrhyw newidiadau i'w hamgylchiadau neu rai'r cysylltiadau brys (sydd â'r allweddi).

Bydd gwasanaeth monitro Llinell Ofal Powys yn gwneud barn yn seiliedig ar yr alwad a chyswllt â'r defnyddiwr.  Byddwn yn atgyfeirio at y gwasanaethau brys gyda phob ewyllys da ac er budd gorau'r defnyddiwr yn seiliedig ar ein barn ar y wybodaeth ddaeth i law ar y pryd.  Bydd y defnyddiwr felly'n cytuno i fod yn gyfrifol am gostau sy'n deillio o ymateb brys i ddefnyddio'r larwm (gan gynnwys yr hyn sydd wedyn yn cael ei ystyried yn alwad diangen) pan fydd Llinell Ofal Powys wedi dilyn y protocolau cytûn a dyletswydd gofal gydag ewyllys da.

Rhaid cael o leiaf tri mis o gytundeb.

Dod â'r gwasanaeth i ben

Os byddwch yn canslo'r cais am larwm ar ôl anfon y cais a'ch bod yn gwrthod y larwm, bydd rhaid talu £20.00 o gostau canslo.

Os byddwch yn canslo pan fydd y peiriannydd yn galw, bydd rhaid talu costau gosod a rhaglennu fel sydd ar daflen costau rhentu a monitro'r Llinell Ofal.

Pan fydd eich larwm wedi'i gosod, rhaid cael o leiaf tri mis o gytundeb.  Gall y defnyddiwr ddod â'r cytundeb i ben unrhyw bryd wedi hyn a bydd rhaid talu hyd at ddyddiad dod â'r cytundeb i ben.

Mae Llinell Ofal Powys fel Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i ddod â'r gwasanaeth i ben unrhyw adeg gyda 4 wythnos o rybudd o ganlyniad i dorri'r cytundeb neu newid mewn gwasanaeth.

Os bydd y defnyddiwr yn methu talu o fewn 30 diwrnod, bydd Llinell Ofal Powys fel Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i ddod â'r gwasanaeth monitro i ben ar ôl trafodaethau.

 

Cysylltiadau

Eich sylwadau am ein tudalennau