Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Ieuenctid)
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y Cwrs:
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Nod
Cwrs addysgol 2 ddiwrnod yw Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl sy'n dysgu pobl sut i adnabod, deall a helpu pobl ifanc a allai fod yn datblygu problem iechyd meddwl. Yn yr un ffordd ag yr ydym yn dysgu cymorth cyntaf corfforol, mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn eich dysgu sut i adnabod yr arwyddion o berygl hanfodol o afiechyd meddwl.
Trwy fynychu'r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl hwn, byddwch yn dysgu sut i:
- Adnabod yr arwyddion cynnar o broblem iechyd meddwl
- I deimlo'n hyderus yn helpu rhywun sy'n profi problem iechyd meddwl
- Darparu cymorth ar sail cymorth cyntaf
- Helpu rhywun rhag niweidio eu hunain neu eraill
- Helpu atal problem iechyd meddwl rhag gwaethygu
- Helpu rhywun i wella'n fwy cyflym
- Rhoi arweiniad i rywun tuag at y cymorth cywir
- Lleihau'r stigma o broblemau iechyd meddwl
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
8 a 9 Mehefin 2020 | Cartrefi Cymru, Aberhonddu | 9.30am - 4.30pm |
7 a 8 Medi 2020 | Radnor YFC, Uned 5, Ddole Road, Llandrindod | 9.30am - 4.30pm |
9 a 10 Tachwedd 2020 | NPTC, Y Drenewydd | 9.30am - 4.30pm |
15 a 16 Mawrth 2021 | Radnor YFC, Uned 5, Ddole Road, Llandrindod | 9.30am - 4.30pm |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau