Powys i groesawu cymal anoddaf erioed OVO Energy yn nhaith y merched

16 Ebrill 2019
Bydd Powys yn croesawu'r cymal anoddaf erioed yn hanes Taith Feics Merched OVO Energy wrth i'r ras ddychwelyd i Gymru ddydd Gwener 14 Mehefin.
24 awr wedi diwedd pen-bryn y ras yn Swydd Warwick, bydd seiclwyr gorau'r byd yn mynd i'r afael â chymal caled rhwng Llandrindod, sef cartref y Casgliad Beiciau Cenedlaethol, a Maes y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt ar ddiwrnod pump ras 2019.
Mae'r llwybr 140 cilometr (87 milltir) trwy Bowys, sy'n croesawu'r ras Merched am y tro cyntaf, yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n cynnwys dringfeydd Brenhines y Mynyddoedd SKODA, sef Gorddwr Bank a Pennau yn rhan o'r daith.
Mae'r uchder mwyaf o 2,206 metr yn sicrhau bod cymal pump y ras eleni'r anoddaf yn hanes y gystadleuaeth.
"Mae'r ras yn addo bod yn wych," meddai Mick Bennett, cyfarwyddwr Taith Merched OVO Energy. "Mae Powys yn cynnig y gymysgedd anghygoel o gefn gwlad prydferth a thir heriol, felly ry'n ni wrth ein bodd gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a Beicio Cymru i ddod â phrif ras merched Prydain i'r sir am y tro cyntaf.
"Ry'n ni wedi gwrando ar y seiclwyr pan maent wedi gofyn i'r ras fod hyd yn oed yn galetach ac rwy'n gwybod y byddant yn gallu teimlo'r cymal yma yn eu coesau wedyn! Peidiwch â chymryd eich siomi gan y ffordd y maent yn rhuthro i ennill pan gyrhaeddant faes y Sioe Frenhinol - dyma'r cymal anoddaf o'r ras sydd wedi'i chynnal yma erioed."
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol: "Mae'n wych croesawu'n ôl i Gymru unig ras lefel ryngwladol Prydain i ferched. Mae'r gystadleuaeth yn un sy'n denu'r seiclwyr benywaidd gorau yn y byd ac mae'n ddigwyddiad rhagorol i gynyddu proffil y gamp i ferched a seiclo'n gyffredinol, ac annog cyfranogiad a dull iach o fyw."
Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: "Unwaith eto, bydd y llwybr yn gyfle rhagorol i arddangos tirweddau hyfryd Cymru, a fydd hefyd yn her i'r seiclwyr. Rwy'n siwr y bydd y gwylwyr yn dod allan yn eu miloedd unwaith eto i greu amgylchedd rhagorol i bawb sy'n cystadlu ar y cymal."
Meddai Anne Adams-King, Prif Weithredwr Beicio Cymru: "Mae'n wych bod Powys yn barod i groesawu cymal anoddaf erioed Taith merched OVO Energy Women's Tour.
"Mae Powys yn ardal hardd iawn yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at weld cymaint o bobl â phosibl allan yn gwylio'r seiclwyr ar yr hyn a fydd yn ddiamau yn ddiwrnod difyr o feicio."
Bydd cymal pump yn dechrau wrth ymyl llyn enwog Llandrindod cyn dilyn hynt dolen ym Mhowys sy'n mynd i'r gogledd cyn belled â Dolfor ac i'r de cyn belled â Chapel Uchaf cyn troi'n ôl i'r dechrau. Bydd y peloton hefyd yn mynd trwy Raeadr Gwy, sydd hefyd ar lwybr Wales360, sef ras epig oddi-ar-y-ffordd ddiweddaraf Prydain. Cynhelir hon am y tro cyntaf fis Gorffennaf July 2019.
Mae Maes Sioe Frenhinol Cymru eisoes wedi croesawu cymal o Daith Prydain OVO Energy, wrth i'r beiciwr cyflym Dylan Groenewegen ddod yn fuddugol yno yn 2016. Mae llai na 15 cilometr rhwng lleoliadau dechrau a gorffen y diwrnod, felly mae'n gymal sy'n hwylus iawn i wylwyr.
Dywedodd Prif Weithredwr British Cycling Julie Harrington: "Bydd yn ychwanegu at restr gynyddol Powys o bethau mae'n rhaid eu gwneud yn y sir yr haf hwn gyda'r digwyddiad seiclo gyda'r amlycaf yn y byd, sef Taith Merched OVO Energy am y tro cyntaf yn ei hanes history.
"Mae'n ras sy'n mynd o nerth i nerth bob blwyddyn ac yn ennyn atgofion o'r dechrau i'r diwedd i seiclwyr gorau'r byd, y cefnogwyr sy'n llenwi ymyl y ffordd a'r rheiny sy'n gwylio o'u cartrefi. Gobeithiwn y bydd y digwyddiad yn darparu'r ysbrydoliaeth i fwy o ferched ddringo ar gefn beic ym Mhowys a thu hwnt, a'n helpu i wireddu ein huchelgais i gael miliwn yn fwy o ferched ar gefn beic erbyn 2020."
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris: "Rydym wrth ein bodd fod digwyddiad seiclo gyda'r gorau yn y byd yn dychwelyd i Bowys, gan ddechrau a gorffen cymal yma a fydd yn gwarantu cyfle i ddangos ein sir brydferth i'r byd.
"Mae'r daith yn denu miliynau o wylwyr a miloedd o ymwelwyr lle bynnag y bydd yn mynd a bydd nid yn unig yn darparu hwb economaidd mawr i fusnesau ond hefyd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ymgymryd â'r gamp gyffrous hon."
Bydd Taith Merched 2019 OVO Energy yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf yn hanes y digwyddiad. Bydd Suffolk yn croesawu Dechrau'r chweched daith ddydd Llun 10 Mehefin cyn i Gaint a Swydd Rhydychen groesawu'r ras am y tro cyntaf ar gyfer cymalau dau a thri. Mae'r ras yn parhau i fod yn rhan o gyfres arobryn Taith Merched y Byd UCI. Cynhelir y chweched digwyddiad, sef Ras Aur Amstel, yn yr Iseldiroedd ar ddydd Sul (21 Ebrill).
Bydd manylion cymal chwech y ras eleni yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau (18 Ebrill), a bydd rhagor o wybodaeth am y timau sy'n cystadlu a dyluniad y crys ar gael o'r Pasg ymlaen.