Canolfan ailgylchu gwastraff y cartref i agor penwythnos nesaf

18 Ebrill 2019
Bydd canolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd yn agor yn Y Drenewydd am y tro cyntaf penwythnos nesaf yn ôl datganiad gan Gyngor Sir Powys.
Mae'r safle newydd, sy'n eiddo i'r cyngor, ar Ystad Ddiwydiannol Dyffryn a bydd yn agor am 10am ddydd Sadwrn, Ebrill 27.
Datblygwyd y safle gan y Contractwyr Alun Griffiths Cyf a bydd Potters Waste Management yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth ar ran y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Rwyf wrth fy modd y bydd ein canolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd yn agor penwythnos nesaf.
"Bydd y ganolfan yn welliant mawr i'r safle presennol yn y dref. Cafodd ei hadeiladu a'i dylunio'n benodol i wella llif y traffig a'i wneud yn haws i breswylwyr ailgylchu eu gwastraff.
"Mae ein buddsoddiad yn y safle newydd hwn yn rhan o'n cynlluniau hirdymor i sicrhau cyfleusterau ailgylchu a gwastraff strategol ar draws y sir. Bydd y ganolfan hon yn cydategu at y safleoedd eraill y mae'r cyngor yn berchen arnynt yn Aberhonddu, Llandrindod, a Chwm-twrch Isaf ger Ystradgynlais. Mae'r ffaith ein bod yn meddu ar ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn helpu i sicrhau'r gwasanaeth gwerthfawr hwn.
"Mae canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn gyfraniad pwysig i gyflawni targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ailgylchu o leiaf 70 y cant o'n gwastraff erbyn 2025."
Er y bydd y gwasanaeth yn gweithredu o leoliad newydd ni fydd yr oriau agor yn newid, byddant yn aros fel a ganlyn:
- Dydd Llun - 9am-5pm
- Dydd Mawrth - 9am-5pm
- Dydd Mercher - 9am-5pm
- Dydd Iau - Ar gau
- Dydd Gwener - Ar gau
- Dydd Sadwrn - 10am-4pm
- Dydd Sul - 10am-4pm
Bydd rhaid i drigolion sydd am ddefnyddio cerbydau masnachol i gludo eu gwastraff o'r cartref i'r cyfleuster newydd wneud cais am drwyddedau cerbydau ac ôl-gerbydau masnachol oddi wrth y cyngor. Gellir gwneud hyn trwy fynd i www.powys.gov.uk/ailgylchu.
Bydd y safle presennol yn Lôn Wern Ddu yn cau ddydd Mercher, 24 Ebrill am 5pm.