1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: Wyddoch chi y gallwch fenthyg cit casglu sbwriel wrthym ni a helpu i gadw Powys yn lân
Darllen mwy

Agoriad swyddogol canolfan ailgylchu newydd gan y Cadeirydd

Image cynrychioli Agoriad swyddogol canolfan ailgylchu newydd gan y Cadeirydd

2 Mai 2019

Image of people outside new recycling centre in NewtownMae canolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd yn Y Drenewydd wedi cael ei hagor yn swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys.

Agorwyd y ganolfan gan y Cynghorydd David Meredith yn ei lleoliad newydd ar Ystad Ddiwydiannol Dyffryn ddoe (ddydd Mercher 1 Mai).

Datblygwyd y safle gan y Contractwyr Alun Griffiths Cyf a bydd Potters Waste Management yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth ar ran y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Rwyf wrth fy modd bod ein canolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd yn y Drenewydd wedi agor

"Bydd y ganolfan yn welliant mawr i'r safle presennol yn y dref. Cafodd ei hadeiladu a'i dylunio'n benodol i wella llif y traffig a'i wneud yn haws i breswylwyr ailgylchu eu gwastraff.

"Mae ein buddsoddiad yn y safle newydd hwn yn rhan o'n cynlluniau hirdymor i sicrhau cyfleusterau ailgylchu a gwastraff strategol ar draws y sir. Bydd y ganolfan hon yn cydategu at y safleoedd eraill y mae'r cyngor yn berchen arnynt yn Aberhonddu, Llandrindod, a Chwm-twrch Isaf ger Ystradgynlais. Mae'r ffaith ein bod yn meddu ar ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn helpu i sicrhau'r gwasanaeth gwerthfawr hwn.

"Mae canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn gyfraniad pwysig i gyflawni targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ailgylchu o leiaf 70 y cant o'n gwastraff erbyn 2025."

Er y bydd y gwasanaeth yn gweithredu o leoliad newydd ni fydd yr oriau agor yn newid, byddant yn aros fel a ganlyn:

  • Dydd Llun - 9am-5pm
  • Dydd Mawrth - 9am-5pm
  • Dydd Mercher - 9am-5pm
  • Dydd Iau - Ar gau
  • Dydd Gwener - Ar gau
  • Dydd Sadwrn - 10am-4pm
  • Dydd Sul - 10am-4pm

Bydd rhaid i drigolion sydd am ddefnyddio cerbydau masnachol i gludo eu gwastraff o'r cartref i'r cyfleuster newydd wneud cais am drwyddedau cerbydau ac ôl-gerbydau masnachol oddi wrth y cyngor. Gellir gwneud hyn trwy fynd i www.powys.gov.uk/ailgylchu.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu