Newid dyfodol - maethu dros Bowys

3 Mai 2019
Mae Cyngor Sir Powys yn cefnogi ymgyrch cenedlaethol sy'n annog pobl i ystyried maethu.
Bydd Pythefnos Gofal Maeth yn rhedeg o ddydd Llun, 13 Mai tan 26 Mai i godi proffil maethu a sut mae'n gallu trawsnewid bywydau'n llwyr - y gallu i newid dyfodol.
Mae Gwasanaeth Maethu Cyngor Sir Powys yn credu'n gryf yn y gwahaniaeth mae gofal maeth yn ei wneud i fywydau plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu maethu. Os ydych yn meddwl bod y medrau a'r profiad perthnasol gennych, rydym yn galw arnoch i ystyried dod yn ofalwr maeth. Trwy hyn gallwch chi newid dyfodol rhywun.
I ddysgu mwy am faethu ym Mhowys bydd y tîm yn mynd o amgylch bröydd y sir trwy gydol y pythefnos. Dewch i gwrdd â ni i gael sgwrs am faethu ym Mhowys. Byddwn ni yn y lleoedd canlynol:
- Morrisons, Y Drenewydd: dydd Mawrth, 14 Mai
- Tesco, Y Trallwng: Dydd Mercher, 15 Mai
- Co-op Aberhonddu: Dydd Mawrth, 21 Mai
- Tesco, Ystradgynlais: dydd Iau, 23 Mai
- Tesco, Llandrindod: dydd Gwener, 24 Mai
Byddwn ni yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar faes y Sioe Frenhinol dros benwythnos 18 a 19 Mai, ar stondin 163 yn Neuadd yr Ŵyl Wanwyn.
Byddwn ni hefyd yn y Diwrnod Gweithgareddau i'r Teulu ym Mharc Gwledig Craig y Nos ddydd Mercher, 29 Mai a drefnir gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Os hoffech wybod mwy am faethu ym Mhowys ewch i www.powys.gov.uk/maethu neu mae croeso i chi anfon e-bost at maethu@powys.gov.uk neu ffonio 0800 22 30 627 am sgwrs anffurfiol.