Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer strategaeth ddigidol

7 Mai 2019
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu strategaeth ddigidol gynhwysfawr ar gyfer y cyngor. Bydd hyn yn galluogi'r cyngor i gadw i fyny â thechnoleg ac yn sicrhau bod trigolion yn cael gafael ar wasanaethau'r cyngor yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.
Mae'r Cynghorydd James Evans, yr Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Diogelu'r Cyhoedd yn gwahodd preswylwyr a busnesau i roi eu barn trwy arolwg ar-lein a lansiwyd yr wythnos hon.
Dywedodd y Cynghorydd Evans, sy'n hwyluso gwell cysylltiadau rhwng y cyngor â thrigolion: "Mae'r rhan fwyaf ohonom naill ai'n defnyddio neu yn gyfarwydd â bancio ar-lein neu apiau symudol sy'n ein helpu i gyflawni tasgau bob dydd a chael hyd i wybodaeth ry'n ni ei angen trwy bwyso botwm. Mae'r term digidol yn ymwneud â gwneud y defnydd gorau o'r dechnoleg sy'n bodoli fel y gallwn roi ffordd fwy effeithlon ac effeithiol i breswylwyr gysylltu â'r cyngor yn gyflym - boed hynny i ofyn am focs ailgylchu newydd, neu i wneud cais am fudd-dal treth y cyngor."
Mae Cyngor Sir Powys wedi cydnabod bod heriau i wasanaethau cyhoeddus, preswylwyr a busnesau o ran cysylltedd band eang a'r rhyngrwyd a fydd yn dylanwadu ar yr atebion digidol. Mae'r cyngor wedi bod yn trafod gyda darparwyr telathrebu yn y rhanbarth i geisio gwella cyrhaeddiad digidol y sir.
Mae'r cyngor eisoes wedi croesawu technolegau digidol mewn nifer o ffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf i alluogi canran fawr o drigolion i gysylltu â gwasanaethau, gofyn am wasanaethau a derbyn gwasanaethau, o adnewyddu llyfr llyfrgell, rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon neu archebu bin ar olwynion newydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd James, "Ein nod yw datblygu strategaeth ddigidol gydgysylltiedig sy'n cadw i fyny â'r technolegau digidol sy'n datblygu'n gyflym ac i fanteisio'n llawn ar y technolegau hyn. Rydym am wneud yn siŵr ein bod yn ystyried yr holl fanteision y gall dull digidol ei roi i'n holl breswylwyr. Mae hyn yn cynnwys opsiynau sy'n rhoi gwell mynediad i bobl sydd â chyflwr neu anabledd a all wneud cyswllt ar-lein yn fwy anodd."
Yr arolwg ar-lein yw'r cam cyntaf i gasglu barn a safbwyntiau cychwynnol am y wybodaeth sydd gan bobl ynghylch technoleg ddigidol yng nghymunedau Powys. Gellir dod o hyd i'r arolwg www.powys.gov.uk/dweudeichdweud ac mae'n cau ar 31 Mai 2019.