Cabinet Powys yn mabwysiadu canllawiau cynllunio atodol

8 Mai 2019
Cafodd ddau set o ganllawiau cynllunio a fydd yn cefnogi Cynllun Datblygu Lleol y sir eu mabwysiadu gan gabinet y cyngor sir.
Yn 2018, mabwysiadodd y cyngor sir CDLl newydd, y cynllun sy'n gosod polisiau cynllunio ar gyfer y sir tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gydag ymrwymiad y byddai'n cynhyarchu dau bolisi Canllaw Cynllunio Atodol.
Mae'r polisïau atodol, a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr haf, yn cwmpasu tirwedd ac ynni adnewyddadwy a'u nod yw cynnig cymorth i ddeall, dehongli a rhoi ar waith polisïau penodol wrth wneud penderfyniadau cynllunio.
Fe'u cynlluniwyd i sicrhau bod y polisïau hynny yn cael eu deall yn well ac yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn darparu cyngor i swyddogion cynllunio, datblygwyr a pherchnogion safleoedd. Fe'u cynhyrchwyd yn dilyn cytundeb gyda'r Arolygydd Cynllunio annibynnol a gynhaliodd yr archwiliad cyhoeddus y llynedd.
Am ragor o wybodaeth am y Canllawiau Cynllunio Atodol ewch i https://cy.powys.gov.uk/article/5526/Canllawiau-Cynllunio-Atodol-y-CDLl