Lansio arolwg i ganfod barn rhieni am gefnogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

10 Mai 2019
Lansiwyd arolwg i weld beth yw barn rhieni am y cymorth y mae ysgolion yn ei roi i blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Bydd yr arolwg yn agored i rieni y mae eu plant mewn un o ysgolion Powys neu leoliad y blynyddoedd cynnar yn y sir. Hefyd bydd cwestiynau ar gyfer rhieni sy'n dewis dysgu eu plant yn y cartref.
Mae'r arolwg yn rhan o'r gwaith ymchwil a gwella y mae Cyngor Sir Powys yn ei wneud i'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet y Cyngor ar faterion Addysg, "Mae'r ddarpariaeth ar gyfer ein pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ym Mhowys yn newid wrth inni ymateb i ddeddfwriaeth newydd. Rydym yn awyddus tu hwnt i roi'r bobl ifanc yma a'u teuluoedd wrth wraidd y newidiadau yn y gwasanaeth.
"Rydym wedi cynnal digwyddiadau cynhyrchiol i baratoi at yr ymgynghoriad ynglŷn â'n canolfannau arbenigol: y cam nesaf fydd yr arolwg. Byddai'n ddefnyddiol pe byddai pobl ifanc a'u teuluoedd yn manteisio ar y cyfle i lenwi'r arolwg. Trwy hyn byddwn yn medru deall eu profiadau'n llawn a chydweithio i lunio'r gwasanaeth hwn ar gyfer y dyfodol."
Mae'r arolwg ar gael ar-lein tan ganol nos ddydd Sul, 2 Mehefin 2019. Ewch yma i weld yr arolwg.