1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: Adroddiad arolwg Estyn o Awdurdod Addysg Powys wedi'i gyhoeddi
Darllen mwy

Penodi Cadeirydd Newydd Cyngor Sir Powys

Image cynrychioli Penodi Cadeirydd Newydd Cyngor Sir Powys

21 Mai 2019

Image of new Chairman receiving the chain of officePenodwyd cynghorydd sir o Lanandras yn Gadeirydd newydd Cyngor Sir Powys.

Etholwyd y Cynghorydd Beverley Baynham, sy'n cynrychioli ward Llanandras, yn gadeirydd yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ar ddydd Iau, 16 Mai, i olynu'r Cynghorydd David Meredith, aelod lleol ward Dewi Sant Mewnol.

Etholwyd y Cynghorydd Baynham yn gynghorydd sir ar ward Llanandras yn 2017 ac roedd yn Gadeirydd Sir Frycheiniog yn ystod 2017/18.

Etholwyd y Cynghorydd Gwynfor Thomas, aelod lleol Llansantffraid a'r Cynghorydd Gareth Ratcliffe, aelod lleol Y Gelli Gandryll, yn Is-Gadeirydd Cynorthwyol.

Dyma'r tro cyntaf yn hanes y cyngor sir i gael tair merch yn y swyddi fel Cadeirydd, Arweinydd (Cynghorydd Rosemarie Harris) a Phrif Weithredwr (Dr Caroline Turner) ar yr un pryd.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu