Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cofnodi Achos

Cyflwynir gan The Crew DCC Interactive

Cynulleidfa Darged: Timau / Darparwyr Gwaith Cymdeithasol / Gofalwyr

Nodau

Mae cofnodion, gan gynnwys nodiadau yn arf hanfodol a rhaid i weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol fod yn gallu eu defnyddio'n effeithiol i ddiwallu eu cyfrifoldebau proffesiynol a chyfreithiol amrywiol. 

Cafodd y cwrs rhyngweithiol hwn ei gynllunio i roi dealltwriaeth o sut, pam a phryd i ysgrifennu cofnodion amserol a chywir, yn ogystal â sut y gallant gael eu defnyddio i amddiffyn atgofion wrth gael eich croesholi yn amgylchedd y llys.

Cafodd y cwrs hwn ei gynllunio i helpu i sicrhau fod gweithwyr proffesiynol yn gallu mabwysiadu ymarfer y gellir ei amddiffyn gyda'u nodiadau a'u cofnodion, wrth iddynt hefyd ystyried eu hatebolrwydd eu hunain ar yr un pryd yngyd ag atebolrwydd eu sefydliad.

Deilliannau

  • Disgrifiad o'r hyn yw cofnod gofal amserol
  • Esbonio pan y dylai cofnodion gofal amserol gael eu cadw
  • Ymarfer cadw cofnodion cyfoes
  • Defnyddio cofnodion cyfoes i greu adroddiad
  • Amddiffyn eich atgof drwy ddefnyddio adroddiad a chofnod cyfoes o wrth gael eich croesholi

Dyddiadau:

  • 23 Gorffennaf 2024, 9.00am - 4.30pm drwy Teams

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau