Diweddariad ar Gofnodi Achosion i Blant
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau.
Darparwr y Cwrs: Bond Solon
Amcanion y cwrs
Mae'r cwrs hanner diwrnod tra ymarferol hwn yn dilyn 'taith' cofnodion; o'u cread yn y lle cyntaf, i'r rheolaeth ohonynt, a'u storio yn unol â'r arfer gorau. Mae'r cwrs yn dwyn sylw at bwysigrwydd cofnodion yn ystod achosion cyfreithiol, a pha mor rhwydd yw hi i ymosod arnynt neu ddwyn anfri arnynt.
Byddwn yn ystyried manylion yr hyn y dylid ei gynnwys mewn nodiadau am werthuso, asesu, gwybodaeth a geir, ymyrraeth, cynllunio a llunio penderfyniad. Bydd dadansoddiad ac eglurhad yn cael eu cynnig hefyd o atebolrwydd y Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gofal Cymdeithasol, a'r gwahanol ddulliau o graffu ar gofnodion. Bydd mynychwyr yn dysgu sut i gasglu, sicrhau a chyflwyno cofnodion yn unol â'r arfer gorau.
Mae'r cwrs rhyngweithiol hwn yn datblygu sgiliau tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer datganiadau/adroddiadau gweithwyr cymdeithasol. Trwy ymarferion dan arweiniad hyfforddwyr, bydd mynychwyr yn ystyried cynnwys tystiolaeth ysgrifenedig trwy edrych ar ffynhonnell ac arwyddocâd y wybodaeth i'w chynnwys. Byddant yn dysgu sut i wahaniaethu rhwng ffeithiau, casgliadau a barn ac edrych ar y peryglon cyffredin a'r camgymeriadau y bydd Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gofal Cymdeithasol yn eu gwneud, a sut i osgoi'r peryglon a'r camgymeriadau hyn. Bydd mynychwyr yn adolygu adroddiadau, gan gynnwys arddull a ffurf, ac yn defnyddio meini prawf asesu gwrthrychol i asesu eu tystiolaeth ysgrifenedig eu hunain.
Pwyntiau dysgu allweddol
- Adnabod pwysigrwydd cofnodion yn y dasg o ddarparu gwell deilliannau i oedolion
- Adnabod y prif ffactorau sy'n sicrhau parhad gofal
- Gwahaniaethu rhwng ffeithiau, casgliadau a barn
- Cofnodi ffeithiau eglur a chryno o arsylwi, holi a dogfennu
- Rheoli cofnodion yn unol ag arfer gorau (gan gynnwys cofnodion electronig)
- Gallu defnyddio cofnodion fel ffynhonnell wybodaeth sylfaenol
- Cadw at brotocolau rhannu gwybodaeth
- Gwybod sut y mae gweithiwr proffesiynol yn atebol am ei gofnodion
- Adnabod pwysigrwydd casglu gwybodaeth yn effeithiol trwy wybod sut y mae'n cael ei chynnwys mewn tystiolaeth ysgrifenedig
- Adnabod y problemau, y ffeithiau a'r ffynonellau a'u pwysigrwydd
- Gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau a ffynonellau tystiolaeth a'u pwysigrwydd
- Gallu defnyddio cofnodion yn ffynhonnell wybodaeth sylfaenol a fydd yn sail i'r adroddiad
- Gwahaniaethu rhwng ffeithiau, casgliadau a barn
- Datblygu ffordd wrthrychol a beirniadol o edrych ar bethau o ran eich gwybodaeth ysgrifenedig eich hun
- Cynhyrchu datganiadau ac adroddiadau sy'n cydymffurfio â gofynion y llys ac sy'n gallu gwrthsefyll unrhyw groesholiad
- Llunio adroddiad da, gan gynnwys cynllun, fformat ac arddull sy'n briodol
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau