Rhoi dirwy am dipio anghyfreithlon

10 Mehefin 2019
Mae un o drigolion Castell-nedd Porth Talbot wedi cael dirwy o £200 gan Gyngor Sir Powys am adael sbwriel tu allan i ganolfan ailgylchu gwastraff o'r cartref.
Cafodd yr unigolyn ei ddal ar CCTV yn gadael sachau duon o sbwriel domestig tu allan i gatiau'r ganolfan ailgylchu yng Nghwmtwrch Isaf dydd Sadwrn, Mehefin 1, gan felly arwain at gael ei ddirwyo gan y Tîm Ymwybyddiaeth a Gorfodi Gwastraff.
Cafodd yr unigolyn ei ddirwyo am adael gwastraff rheoledig ar dir, gan felly dorri Adran 33 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Ers mis Ebrill mae trigolion Castell-nedd Port Talbot wedi gallu defnyddio'r ganolfan yng Nghwmtwrch isaf fel rhan o gytundeb rhwng y ddau gyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Rydym am wneud Powys yn le braf i'n trigolion a'n hymwelwyr ac i ddechrau, rhaid cael amgylchedd glân.
"Mae'r canolfannau ailgylchu yno i drigolion ailgylchu a chael gwared ar eu gwastraff yn y ffordd gywir.
"Y tro hwn, roedd yna giw byr o geir yn aros i fynd i'r ganolfan gyda'r staff yn helpu ymwelwyr ac yn cyfeirio traffig i sicrhau llif y traffig. Mae'n hollol annerbyniol i ymddwyn fel hyn a gadael y sbwriel tu allan i'r ganolfan.
"Mae diffyg amynedd a methu aros rhai munudau wedi costio'n ddrud iddo. Mae systemau CCTV ym mhob un o'n canolfannau ni ac ni wnawn dderbyn y fath ymddygiad.
"Rydym yn annog pawb sy'n defnyddio'r canolfannau i fod yn amyneddgar, yn arbennig yn ystod cyfnodau prysur megis penwythnosau, ac i sortio eich gwastraff o flaen llaw fel bod y traffig yn gallu llifo'n rhwydd."