Costau parcio ceir i godi

10 Mehefin 2019
Bydd prisiau parcio ceir ym meysydd parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Powys yn codi'n hwyrach y mis hwn.
Mae'r codiad yn dilyn arolwg o gostau mewn meysydd parcio y mae'r cyngor sir yn eu gweithredu. Y nod fydd codi incwm i helpu i leddfu pwysau ariannol a chyllido gwasanaethau allweddol.
Bydd y cyngor yn cyflwyno prisiau parcio ceir symlach ond bydd cost tocynnau'n codi. Daw'r taliadau newydd i rym o ddydd Gwener 28 Mehefin ymlaen.
Ni fydd cost cardiau parcio i'w defnyddio mewn meysydd parcio talu ac arddangos yn codi.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae incwm o'n meysydd parcio talu ac arddangos yn bwysig i'r sir oherwydd ei fod yn helpu i gefnogi'r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Credwn fod y costau newydd yn realistig ac yn fforddiadwy ond hefyd byddant yn helpu'r cyngor i gwrdd â'i dargedau incwm a chefnogi gwasanaethau pwysig."
Dyma'r ffioedd talu ac arddangos newydd:
- Hyd at un awr - £1
- Rhwng un i ddwy awr - £2
- Rhwng dwy i bedair awr - £3
- Dros bedair awr - £4
Bydd y cyngor yn codi dwywaith mwy i gerbydau mawr neu gerbydau gydag ôl-gerti sy'n cymryd o leiaf dau le parcio.
"Mae cardiau parcio ar gael i ddefnyddwyr rheolaidd ein meysydd parcio talu ac arddangos. Gan na fyddwn yn codi'r costau hyn bydd gostyngiad mwy i bobl sy'n defnyddio meysydd parcio'n rheolaidd," meddai'r Cynghorydd Davies.
"Gall rhywun sy'n defnyddio maes parcio pum diwrnod yr wythnos, 46 wythnos y flwyddyn arbed 60 y cant os ydynt yn prynu cerdyn parcio blynyddol o'i chymharu â thalu'r gost barcio ddyddiol. Mae hyn gyfwerth â thalu dim ond £1.61 y dydd."